Mam o'r Bala yn sefydlu dosbarthiadau hunanamddiffyn ar ôl ymosodiad

Cafodd y sesiwn gyntaf ei chynnal yn Y Bala ddydd Sadwrn
- Cyhoeddwyd
Mae mam o'r Bala wedi sefydlu dosbarthiadau hunanamddiffyn ar ôl ymosodiad ar ferch yn ei harddegau yn y dref.
Yn ôl Janatha Carden, mae'r digwyddiad wedi chwalu'r ymdeimlad o ddiogelwch y dref ac wedi "byrstio'r swigen" o gredu bod y dref yn lle diogel i fyw rhag troseddau o'r fath.
Mae hi wedi sicrhau cyllid gan Ymddiriedolaeth Heddlu Gogledd Cymru a'r Gymuned (PACT) er mwyn cynnal y sesiynau diogelwch personol i ferched.
Dywedodd Ms Carden mai ei gobaith ydy y bydd merched sy'n gwneud y cwrs "yn gadael yn teimlo'n fwy hyderus".
'Byrstiodd yr ymosodiad fy swigen'
Cafodd y dosbarth cyntaf ei gynnal yng nghanolfan Bro Tegid ddydd Sadwrn, gyda sesiynau pellach i ddod fel rhan o gynllun peilot a fydd yn rhedeg am flwyddyn.
Cafodd £2,000 ei sicrhau er mwyn cynnal y sesiynau diogelwch personol DefendHER ar gyfer merched 12 oed a throsodd.
Dywedodd Ms Carden fod yr ymosodiad ar ferch ifanc yn y dref wedi cael effaith arni, ac wedi newid y ffordd mae hi'n teimlo am yr ardal mae hi'n byw ynddi.
"Byrstiodd yr ymosodiad fy swigen o deimlo fy mod i'n byw mewn lle saff" meddai.

Janatha Carden sy'n gyfrifol am drefnu'r dosbarthiadau newydd
"Roedd llawer o fy ffrindiau yn teimlo fel hynny hefyd, roedden nhw'n teimlo bod hwn yn lle saff."
Yn dilyn hynny, roedd Ms Carden yn teimlo ei bod angen mynd ati i sefydlu'r dosbarthiadau.
Ychwanegodd: "Roeddwn i eisiau gwneud rhywbeth. Roeddwn i eisiau troi hynny'n rhywbeth cadarnhaol.
"Mae'r prosiect hwn yn beilot mewn gwirionedd. 'Da ni'n mynd i'w redeg am tua blwyddyn."
Gobaith Ms Carden yw sicrhau arian ychwanegol er mwyn parhau â'r cynllun ac ymestyn i ardaloedd eraill.
'Mae angen hyn'
Mae sawl person eisoes wedi cofrestru i fod yn rhan o'r sesiynau newydd.
Dywedodd Ms Carden: "Mae gynnon ni dair mam a merch, a dau bâr o ffrindiau, eisoes wedi archebu ar gyfer y sesiwn gyntaf.
"'Da ni ond wedi ei hysbysebu ar Facebook, a 'da ni wedi derbyn yr archebion hynny eisoes.
"Mae hynny'n dweud wrtha i fod angen hyn ac mae pobl eisiau bod yn rhan ohono fo."
Roedd hi am bwysleisio nad bwriad y sesiynau yma fydd i godi ofn, ond yn hytrach i godi hyder a grymuso merched.
"Un o'r pethau 'da ni'n mynd i'w wneud ydy annog y merched i ddefnyddio eu llais nhw er mwyn atal rhywun.
"Sawl gwaith 'da ni'n ymarfer hynny? 'Da ni ddim yn ymarfer gweiddi a mi ddylen ni".

Dywedodd Gwion Ellis, un o'r hyfforddwyr, fod y sesiynau yn "hynod o bwysig"
Mae Gwion Ellis yn un o'r rhai fydd yn hyfforddi yn y sesiynau newydd.
Dywedodd: "Fydd gennym ni gang yma, eu rhoi nhw mewn i barau a dysgu nhw 'chydig o movesdefence, symud ac i edrych ar ôl eu hunain.
"'Dw i'n meddwl fod o'n hynod o bwysig, 'da ni'n clywed am lot o bethau sy'n mynd ymlaen a phethau'n digwydd. 'Da chi'n meddwl am y trefi mawr, 'da chi ddim yn meddwl am Bala, ond mae'n digwydd.
"Mae'n bwysig bod pawb yn dysgu sut i edrych ar ôl eu hunain."
Ychwanegodd: "'Da ni wedi cael llwyth o ddiddordeb, mae hwn yn llawn ac mae lot o bobl 'di bwcio at y sesiynau nesa'.

Mae Toni yn fam i chwech, ac yn gobeithio bydd y dosbarthiadau o fudd i hi a'i theulu cyfan
Roedd Toni Hall yn un o'r rhai fynychodd y dosbarth.
"'Dw i'n awyddus i fod yma heddiw gan fod gen i bum merch a 'dw i'n meddwl fod o'n beth andros o bwysig iddyn nhw ddysgu i beidio gadael i bobl eu cyffwrdd nhw neu i ddysgu sut i ddelio efo sefyllfa.
"Hwn ydy'r tro cyntaf 'dw i'n trio fo, a 'dw i am ddod â'r plant i'r sesiwn nesa'.
"Efo'r plant o'r ysgol lleol, mae nhw'n dal y bws cyhoeddus ac maen nhw'n gorfod bod ar fws efo pobl diarth. Felly 'dw i'n meddwl fod o'n bwysig i'r dosbarthiadau ddigwydd.
Dywedodd ei bod yn awyddus i roi mwy o hyder i'w phlant a hi ei hun.
"Mae gen i bum merch, ac mae nhw gyd yn dilyn ffordd mam, felly 'dw i'n meddwl fod o'n beth da i wneud."

Mae elusen RASASC yn cynorthwyo pobl sydd wedi profi unrhyw fath o gam-drin rhywiol neu drais.
Mae'r prosiect DefendHER yn un o nifer sydd wedi cael cymorth gan PACT sy'n cefnogi mentrau cymunedol ar draws gogledd Cymru.
Mae Manon Davies yn gweithio i elusen RASASC, dolen allanol yng ngogledd Cymru, elusen sy'n cynnig cymorth i bobl sydd wedi profi unrhyw fath o gam-drin rhywiol neu drais.
Wrth fynychu'r sesiwn gyntaf, dywedodd: "'Da ni gyd yn gwybod am beryglon mewn dinasoedd mawr, ond mae pethau'n gallu digwydd ar stepan drws rhywun hefyd.
"Jest cael yr hyder yna i amddiffyn dy hun, mae'n bwysig ofnadwy.
Dywedodd fod elusen RASASC yn gallu cefnogi pobl sy'n profi camdriniaeth.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Ionawr
