Perygl y bydd S4C yn 'crebachu' dan y Ceidwadwyr?
- Cyhoeddwyd

Mae'r llefarydd Llafur dros ddiwylliant wedi rhybuddio bod "perygl gwirioneddol" y bydd yr arian sy'n cael ei roi i S4C yn "crebachu" dan y llywodraeth Geidwadol newydd.
Dywedodd Chris Bryant, sydd hefyd yn AS Llafur dros Y Rhondda, bod y darlledwr wedi "llwyddo" er gwaethaf toriadau i'w gyllideb mewn blynyddoedd diweddar, ond nad oedd ganddo unrhyw "ffydd" yn y llywodraeth newydd ynglŷn â dyfodol ariannol y sianel.
Mae S4C yn derbyn tua £7m gan lywodraeth y DU, a £75m yn ychwanegol o dâl trwydded y BBC, ynghyd â rhywfaint o incwm masnachol.
Dywedodd Yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon bod S4C yn "rhan bwysig" o ddiwydiant darlledu'r DU.
'Crebachu'
Bydd trafodaethau ynglŷn â dyfodol y drefn o ariannu'r BBC yn cychwyn yn ystod yr haf cyn i'w siarter brenhinol gael ei hadnewyddu.
Dywedodd Mr Bryant ei fod yn pryderu y gall S4C ddioddef o ganlyniad i unrhyw newidiadau yn y drefn o ariannu'r BBC.
Ychwanegodd: "Rydw i'n meddwl eu bod nhw eisiau crebachu'r BBC, ac os ydyn nhw am grebachu'r BBC ac mae S4C yn cael ei ariannu'n (rhannol) gan y BBC, mae perygl gwirioneddol y bydd S4C yn crebachu hefyd."
Dywedodd bod S4C wedi "llwyddo" er gwaethaf toriadau o 36% i'w gyllideb ers 2010, ond aeth ymlaen i ddweud "bod angen i ni sichrau eu bod yn gallu parhau i wneud hynny yn y dyfodol.
"A gallaf ddweud yn blaen, fel Cymro sy'n lefarydd y Blaid Lafur dros ddiwylliant, y cyfryngau a chwaraeon, byddaf yn sicrhau bod John Whittingdale yn atebol os yw'r llywodraeth yn gwneud unrhyw gamgymeriad."

Dywedodd Mr Bryant ei fod yn pryderu y gall S4C ddioddef o ganlyniad i unrhyw newidiadau yn y drefn o ariannu'r BBC
Adolygu'r Siarter
Mi wnaeth yr Ysgrifennydd dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, John Whittingdale, wrthod cais am gyfweliad.
Mewn datganiad dywedodd yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon: "Mae S4C yn rhan bwysig o'r sector darlledu cyhoeddus yn y DU, ac felly hefyd y ffaith ei fod yn cael ei ariannu'n rhannol gan gost y drwydded.
"Bydd penderfyniadau ynglŷn â dyfodol cost y drwydded yn cael eu hystyried fel rhan o broses Adolygu'r Siarter."
Mi wnaeth cadeirydd S4C, Huw Jones, groesawu penodiad John Whittingdale fel yr ysgrifennydd dros ddiwylliant, a dywedodd ei fod eisiau sicrhau bod S4C yn cael ystyriaeth lawn yn y trafodaethau ynglŷn â dyfodol y BBC.
'Drysau caeedig'
Huw Jones yn dweud fod yn rhaid i lais S4C gael ei glywed
Dywedodd: "Rydym eisiau sicrhau bod llais S4C yn cael ei glywed yn glir yn ystod y trafodaethau, oherwydd y bydden nhw'n cael effaith uniongyrchol ar sut mae S4C yn cael ei ariannu yn y dyfodol.
"Tydyn ni ddim am i rywbeth ddigwydd, fel y digwyddodd yn 2010, ble mae trafodaethau'n cael eu cynnal tu ôl i ddrysau caeedig, a ni chafodd S4C, na phobl Cymru, gymryd rhan.
"Ac rydym ni wedi derbyn sicrwydd na fydd hynny'n digwydd eto."
Dywedodd y AS Ceidwadol dros Sir Drefaldwyn, Glyn Davies, ei fod yn gallu deall pam bod S4C eisiau sicrwydd ariannol a'i fod yn "anochel" y byddai ASau Cymreig o'r holl bleidiau yn bryderus, ac eisiau sicrhau y byddai'r drefn ariannu'n parhau.
"Yn amlwg mae'r llywodraeth wedi gorfod gwneud toriadau dros y blynyddoedd diwethaf, ac roedd y trafodaethau ar ddechrau'r Senedd ddiwethaf yn anodd oherwydd bod yn rhaid i ni dorri'r cyswllt rhwng chwyddiant a S4C.
"Rydw i'n hyderus am y dyfodol, roeddwn i'n hyderus ar y pryd, ac rydw i'n parhau'n hyderus.
"Mae'n wasanaeth unigryw a phwysig dros ben, ac rydw i'n sicr y bydd llywodraeth y DU yn cydnabod hynny."

Ysgrifennydd dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, John Whittingdale
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Rhagfyr 2014

- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf 2014

- Cyhoeddwyd16 Gorffennaf 2014

- Cyhoeddwyd24 Mehefin 2014

- Cyhoeddwyd4 Mehefin 2014
