Un o benaethiaid S4C yn gadael
- Cyhoeddwyd

Mae Geraint Rowlands yn dweud ei fod yn gadael ei swydd efo S4C er mwyn dilyn cyfleoedd creadigol
Mae Pennaeth Darlledu a Chomisiynydd Chwaraeon a Digwyddiadau S4C yn gadael ei swydd.
Dywedodd Geraint Rowlands ei fod yn rhoi'r gorau i'w waith gyda S4C am ei fod eisiau dilyn cyfleoedd creadigol eraill.
Bydd y gwaith yr oedd o yn gwneud yn cael ei rhannu dros dro rhwng y Comisiynydd Ffeithiol, Llion Iwan a'r Cyfarwyddwr Cynnwys, Dafydd Rhys.
Dywedodd Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, Dafydd Rhys: "Hoffwn i gymryd y cyfle yma i ddiolch yn fawr iawn i Geraint am ei holl waith yn ystod y chwe blynedd diwethaf. Dwi'n siŵr fy mod i'n siarad ar ran pawb yn S4C wrth ddweud ei bod hi wedi bod yn bleser i gydweithio gydag e. Ry' ni i gyd yn dymuno pob dymuniad da iddo i'r dyfodol."
Dywedodd Geraint Rowlands: "Mae'r blynyddoedd diwethaf wedi cynnwys cyfnodau hapus, adeiladol a heriol ac rydw'i wedi bod yn ffodus i gael gweithio gyda chymaint o bobl greadigol, dalentog a gweithgar.
"Hoffwn ddiolch i'r timau cynhyrchu am eu cefnogaeth a'u hymroddiad. Mae S4C wedi wynebu nifer o sialensiau anodd iawn dros y tair blynedd diwethaf, ond gyda chyfnod o sefydlogrwydd bellach ar y gorwel dan arweiniad Ian Jones, hoffwn ddymuno'r gorau iddo fe a gweddill y tîm yn S4C."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Mehefin 2013

- Cyhoeddwyd26 Mehefin 2013

- Cyhoeddwyd25 Mehefin 2013

- Cyhoeddwyd22 Mehefin 2013
