 |  |   | Helpu'ch plentyn i ddysgu |  |
 | Er mwyn cyflwyno cyfleoedd dysgu i fywyd dydd i ddydd yn y cartref, meddyliwch am y pwyntiau hyn: - Gwnewch yn siwr bod eich plentyn mewn hwyliau dysgu. Er enghraifft, peidiwch â dewis diwedd yr wythnos pan fo'r ddau ohonoch wedi blino
- Cyflwynwch wybodaeth sydd o ddiddordeb iddo - peidiwch â chymryd yn ganiataol bod gan y plentyn ddiddordeb yn yr un pethau â chi. Cysylltwch y dysgu â rhywbeth y mae ganddo ddiddordeb ynddo yn barod a defnyddiwch y pwnc i'ch llywio. Os gallwch gysylltu gwybodaeth â'r hyn y mae'r plentyn wedi ei storio yn ei gof yn barod, bydd hynny'n ei helpu i ddysgu
- Gwnewch y wybodaeth yn berthnasol i'r plentyn. Er enghraifft, efallai ei fod yn casáu mathemateg ac yn ei weld yn ddibwrpas, ond beth am ei helpu i reoli cyllideb pan fo'n mynd i brynu CD neu gêm i'r cyfrifiadur?
- Gwnewch sesiynau dysgu'n hwyl a gofalwch nad ydynt yn rhy hir, rhag bod y dysgu'n mynd yn faich
- Ailadroddwch bethau - mae tair ymdrech fer yn gweithio'n well nag un hir wrth ddysgu
- Defnyddiwch y dull gweithredu sy'n gweddu orau i'ch plentyn, nid i chi
- Gadewch i'ch plentyn gysgu ar ôl bod yn dysgu rhywbeth, fel bod y wybodaeth yn cymryd ei lle yn yr ymennydd, ac ewch dros bethau eto yn y bore
- Bydd defnyddio holl synhwyrau plentyn yn ei helpu i ddysgu, ac yn gwneud pethau'n fwy o hwyl.
Mae annog eich plentyn i ddysgu'n beth gwych. Ond cofiwch fod arnynt angen seibiant hefyd - mae seibiant yr un mor bwysig i ddatblygiad addysgol â dysgu strwythuredig - felly peidiwch â rhoi gormod o bwysau ar eich plant, a pheidiwch â bod yn rhiant gorawyddus! |  | |
|   |
|  |  |
|