Does gan rai plant ddim diddordeb mewn darllen storïau, nac mewn darllen yn gyffredinol. Hyd yn oed pan fônt yn hyn ac wedi dod yn 'ddehonglwyr print' effeithiol, mae rhai plant yn gyndyn o ddarllen llawer. Efallai y byddant yn brasddarllen cylchgronau neu destunau ffeithiol, neu'n chwilio am wybodaeth benodol ar sgrin cyfrifiadur. Mae dewis gwybodaeth fel hyn yn sgil bwysig ynddi'i hun. Ond os yw plant i ymgolli'n llwyr mewn testun, mae angen ennyn eu chwilfrydedd, neu ffurfio rhyw fath o berthynas gyda'r awdur.
Mae'n bwysig ar gyfer gweddill eu bywydau eu bod yn dod yn ddarllenwyr rhugl, oherwydd mae'n rhwystr anodd iddynt ei oresgyn pan fyddant yn hyn.
Dewisiadau eraill yn lle llyfrau stori
Mae pob mathau o bethau y gallwch eu defnyddio er mwyn annog plant i ymddiddori mewn darllen - comics, cyfarwyddiadau ar gyfer gemau cyfrifiadurol, bocsys, canllawiau teledu beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd. Gallwch ddarllen a thrafod papurau newydd, llyfrau gwybodaeth neu gatalogau. Y peth pwysig yw dewis rhywbeth a fydd yn helpu'r plentyn i gael gwybodaeth am rywbeth y mae ganddo ddiddordeb ynddo. Er enghraifft, os oes ganddo ddiddordeb mewn bywyd gwyllt, y gofod neu ffasiwn, mae llawer o lyfrau ffeithiol diddorol i'w cael gyda lluniau da ynddynt. Prynwch gylchgrawn iddynt am eu hobi hyd yn oed os yw'r testun wedi ei anelu at oedolyn, gallwch annog y plentyn i'w ddarllen gyda chi. Neu os gwelwch erthygl ddiddorol mewn papur newydd, gofynnwch iddo ei ddarllen a gofynnwch beth yw ei farn ef.
Ydy stori'n bwysig?
Mae bod yn rhan o stori'n weithgaredd dyddiol pwysig i bawb trosglwyddir profiadau o bob math drwy ddweud 'stori' beth ydych chi'n ei wneud pan ydych chi'n dod adref a rhywun yn gofyn 'Sut hwyl gest ti?' Rydych chi'n dweud stori. Cyfeiriodd Ted Hughes, y bardd, at storïau fel 'ffatrïoedd dealltwriaeth bychain'. Maent yn gallu crynhoi barn syml iawn am brofiad, neu ddod yn archwiliadau cymhleth iawn o ymddygiad dynol. Mae darllen testunau ffuglen amlhaenog yn brofiad gwahanol iawn i ddarllen er mwyn cael gwybodaeth syml.
Felly os gallwch annog eich plentyn i ddarllen storïau neu i'w darllen gyda chi, gall helpu ei ddatblygiad addysgol.
Mae dewis anhygoel o lyfrau plant ar gael, yn amrywio o chwedlau hynafol i storïau am fywyd heddiw. Y peth pwysig yw sicrhau eu bod o fewn cyrraedd rhwydd, a helpu plant i weld rhywbeth sy'n berthnasol yn yr hyn y maent yn ei ddarllen.
A ddylent ddarllen ar eu pennau eu hunain?
Mae ysgolion yn defnyddio strategaethau darllen o bob math, o ddarllen yn ddistaw ar eu pennau eu hunain i ddarllen mewn parau a gweithgareddau sy'n cael eu harwain. Gallwch chi wneud yr un peth. Dylai rhai testunau gael eu darllen fel gweithgaredd cymdeithasol, hyd yn oed fel perfformiad.
Gallwch ddarllen gyda'ch plentyn a chael hwyl wrth wneud y lleisiau ar gyfer y gwahanol gymeriadau. Mae siarad am ddarllen hefyd yn un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol o ddatblygu darllenwyr. Mae plant yn dechrau gweld prosesau deall yn gweithio, a byddant yn sylweddoli bod modd dehongli un testun mewn sawl gwahanol ffordd, a bod darlleniadau'n wahanol. Byddant hefyd yn dechrau dysgu nad yw llyfr yn aml yn datgelu ei ystyr lawn ar y darlleniad cyntaf.
Gwefannau defnyddiol:
Cynnal
Cyngor a gwybodaeth pellach.
Cyngor Llyfrau Cymru
Gwybodaeth am lyfrau Cymraeg i blant a llyfrau Saesneg o Gymru.
Cbeebies
Cyngor a gwybodaeth ynglyn â datblygiad iaith a helpu plant i ddarllen.
Literacy Trust
Gwefan yn cynnig cyngor ynghylch darllen gyda phlant o wahanol oedran ac ynghylch dewis llyfrau.
Literacy Trust
Rhestr o ddolenni cyswllt defnyddiol. Top marks
Cyngor ynglyn â gwrando ar eich plantyn yn darllen. Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol