Enghreifftiau pellach ar gyfer yr haen uwch yn unig
Enghraifft 1
Os wyt ti’n cynyddu swm 10%, ac yna’n lleihau’r swm newydd 10%, beth yw’r newid canrannol?
Ateb
Gad i ni drio swm i gychwyn, £100.
Dull 1: Dull y Lluosydd
Os ydyn ni’n cynyddu 10%, y lluosydd fydd × 1.10
Rydyn ni wedyn yn lleihau hwn 10% felly’r lluosydd yma yw × 0.90
Trwy eu cyfuno, cawn 1.10 × 0.90 = 0.99
Mae hyn yn golygu y byddai lleihad o 1%, neu byddai’n 99% o’r swm gwreiddiol.
Dull 2
10% o £100 = £10
£100 + £10 = £110
Nawr lleiha hwn 10%.
10% o £110 = £11
£110 − £11 = £99
Newid terfynol:
£100 − £99 = £1 ac mae hyn yn 1% o £100.
Dull 3
I fod yn fwy ffurfiol yn fathemategol, gallen ni ddefnyddio llythyren fel \({x}\)
10% o \({x}\) = 0.1\({x}\)
\({x}\) + 0.1\({x}\) = 1.1\({x}\)
Nawr mae angen lleihau hwn 10%.
10% o 1.1\({x}\) = 0.11\({x}\)
1.1\({x}\) − 0.11\({x}\) = 0.99\({x}\)
Newid terfynol:
\({x}\) − 0.99\({x}\) = 0.01\({x}\) ac mae hyn yn 1% o \({x}\)
Enghraifft 2
Beth sy’n digwydd os byddi di’n cynyddu gwerth 100%, yna’n lleihau’r canlyniad 100%?
Ateb
Dull 1
I gael cynnydd o 100%, byddai’r lluosydd yn × 2.00
I gael lleihad o 100%, byddai’r lluosydd yn × 0.00
Trwy eu cyfuno, cawn 2 × 0 = 0
Dull 2
100% o £100 = £100
£100 + £100 = £200
Nawr lleiha hwn 100%.
100% o £200 = £200
£200 − £200 = £0
Newid terfynol:
£100 − £0 = £100 ac mae hyn yn 100% o £100
Felly nid yw’r canlyniad yn gweithio yn yr un ffordd ar gyfer 100%.
Enghraifft 3
Gwelwyd gostyngiad o 11% yng ngwerth buddsoddiad am ddwy flynedd yn olynol, yna aeth i fyny 11% am ddwy flynedd yn olynol.
- Os mai £4,800 oedd ei werth yn wreiddiol, faint oedd ei werth ar ôl y pedair blynedd?
- Beth yw’r swm a gollwyd neu a enillwyd?
- Beth fyddai’n digwydd pe bai’r lleihad a’r cynnydd i'r gwrthwyneb?
Ateb 1
I gychwyn, £4,800 oedd ei werth.
Fe wnaeth y gwerth leihau 11% am ddwy flynedd yn olynol, felly dyma oedd ei werth wedyn:
£4800 × 0.892 = £3,802.08.
Yna aeth i fyny 11% am ddwy flynedd yn olynol, felly dyma oedd ei werth wedyn:
£3802.08 × 1.112 = £4684.542768 = £4,684.54 (i'r geiniog agosaf).
Mae’r buddsoddiad a oedd werth £4,800 yn wreiddiol bellach werth £4,684.54 ar ôl pedair blynedd.
Ateb 2
Newid gwirioneddol:
£4,800 − £4,684.54 = -£115.46
Mae hyn yn golled o £115.46.
Ateb 3
Pe bai’r lleihad a’r cynnydd yn y drefn wahanol:
Ar y cychwyn, £4,800 oedd ei werth.
Cododd y gwerth 11% am ddwy flynedd yn olynol, felly dyma oedd ei werth wedyn:
£4,800 × 1.112 = £5,914.08
Yna aeth i lawr 11% am ddwy flynedd yn olynol, felly dyma oedd ei werth wedyn:
£5,914.08 × 0.892 = £4,684.542768 = £4,684.54 (i'r geiniog agosaf).
Mae hwn yn union yr un peth â’r achos cyntaf felly mae’r buddsoddiad a oedd werth £4,800 yn wreiddiol bellach werth £4,684.54 ar ôl pedair blynedd.
Dull
Gelli ddangos y ffaith nad oedd unrhyw newid trwy ddefnyddio’r lluosyddion mewn un cam.
I lawr 11% am ddwy flynedd: lluosydd = × 0.892
I fyny 11% am ddwy flynedd: lluosydd = × 1.112
Os yw’r gwerth yn mynd i lawr i gychwyn ac yna i fyny: 4800 × 0.892 × 1.112
Os yw’r gwerth yn mynd i fyny i gychwyn ac yna i lawr: 4800 × 1.112 × 0.892
Felly:
× 0.892 × 1.112 = × 1.112 × 0.892
Question
Mae pris pob CD yn cael ei ostwng 40% ar Noswyl Nadolig ac yna 20% arall ar Ddydd San Steffan. Mae CD Dawns y 'Dolig fel arfer yn costio £14. Faint mae’n ei gostio ar Noswyl Nadolig a faint mae’n ei gostio ar Ddydd San Steffan?
Pris Noswyl Nadolig
£14 ÷ 100 × 40 = £5.60 o leihad.
£14 - £5.60 = £8.40.
Pris Dydd San Steffan
£8.40 ÷ 100 × 20 = £1.68 o leihad.
£8.40 – £1.68 = £6.72.
Mae ffordd arall o gyfrifo hyn.
Mae’r pris ar Noswyl Nadolig wedi ei ostwng 40%, sy’n golygu bod y pris gostyngol yn 60% o’r pris gwreiddiol.
60% o £14 = £14 ÷ 100 × 60 = £8.40.
Mae’r pris ar Ddydd San Steffan wedi ei ostwng 20%, sy’n golygu bod y pris gostyngol yn 80% o’r pris ar Noswyl Nadolig.
80% o £8.40 = £8.40 ÷ 100 × 80 = £6.72.
Pa ffordd bynnag y byddi’n ei defnyddio, mae’n bwysig dy fod yn sylweddoli nad yw gostwng y pris 40% ac yna 20% yr un peth â gwneud gostyngiad o 60%.