Diagramau VennBeth yw diagramau Venn?

Mae diagramau Venn yn adnodd defnyddiol ym myd ystadegau. Unwaith y byddi’n gyfarwydd â’r rhain, byddi’n gallu rhoi trefn ar bob math o grwpiau a setiau.

Part ofMathemateg RhifeddRhif

Beth yw diagramau Venn?

Ffordd o grwpio gwahanol eitemau yw diagramau Venn. Gelwir y grwpiau hyn yn setiau.

Mae gennyn ni set o glybiau golff neu set o lestri – mae’r rhain yn grwpiau o’r eitemau hynny’n unig.

Rydyn ni’n ysgrifennu set trwy ddefnyddio math arbennig o gromfachau. Gallet gael set o ffrindiau, ee {tom, leanne, alison, nia, anna, suzanne, lucy, marie}. Sylwa nad wyt ti’n defnyddio prif lythrennau o fewn y cromfachau.

Mae diagram Venn yn cychwyn gyda blwch a elwir yn set gynhwysol, sy’n cael ei ddynodi gan y symbol \(ε\) (epsilon).

Mae hwn yn cynnwys popeth y mae gennyn ni ddiddordeb ynddo ar yr adeg dan sylw. Bydd yna gylchoedd y tu mewn i’r blwch ac rydyn ni’n eu defnyddio i grwpio’r eitemau o fewn y set gynhwysol. Mae eitemau yn y cylchoedd yn ffurfio gwahanol is-setiau.

Diagram Venn â dwy set â labeli Set A a Set B. Mae Set A yn cynnwys 8 rhif ac mae Set B yn cynnwys 9 rhif. Mae'r ddwy set yn gorgyffwrdd yn y canol i ffurfio is-set sy'n cynnwys 4 rhif

Is-setiau

Set A yw’r rhifau yn y cylch sydd wedi ei labelu â Set A.

Set A = {1, 5, 6, 7, 8, 9, 10, 12}

Set B yw'r rhifau yn y cylch sydd wedi ei labelu â Set B.

Set B = {2, 3, 4, 6, 7, 9, 11, 12, 13}

Dyma is-setiau’r set gynhwysol.

Croestoriad

Y croestoriad yw lle mae gennyn ni eitemau o Set A a Set B - gwelwn y rhain yn y rhan sy’n gorgyffwrdd.

Rydyn ni’n ei ysgrifennu fel \({A}\cap{B}\). Yn yr enghraifft uchod, \({A}\cap{B}\) = {6, 7, 9, 12}.

Uniad

Uniad diagram Venn yw’r rhifau sydd un ai yn Set A neu Set B.

Uniad yr enghraifft uchod yw 1, 2, 3, 4, 5, 6, 7, 8, 9, 10, 11, 12, 13 gan ei fod yn cyfeirio at y rhifau sy’n ymddangos yn unrhyw un o’r cylchoedd.

Rydyn ni’n ei ysgrifennu fel \({A}\cup{B}\) = {1, 2, 3, 4, 5, 6, 7, 8, 9, 10, 11, 12, 13}.