CymharebDeall cymarebau

Mae cymhareb yn dangos y berthynas rhwng dau werth. Gallan nhw fod mewn cyfrannedd union ac yn cynyddu wrth i'r llall gynyddu neu mewn cyfrannedd gwrthdro; mae un yn cynyddu wrth i'r llall leihau.

Part ofMathemateg RhifeddRhif

Deall cymarebau

Mae cymhareb yn dangos y berthynas rhwng dau nifer.

Mae’n cael ei ysgrifennu ar ffurf a:b, sy’n cael ei ddarllen fel ‘a i b’.

Enghraifft

Mae gan Jon becyn o losin. Mae’n eu rhannu â’i ffrind mewn cymhareb o 3:2. Mae hyn yn golygu am bob tri darn o losin mae John yn eu bwyta, mae’n rhoi dau i’w ffrind.

Dau o bobl ifanc yn eu harddegau mewn seddi sinema yn bwyta fferins

Os yw Jon yn bwyta 15 losin (5 × 3), bydd ei ffrind yn cael 10 losin (5 × 2).

Question

Torth o fara gwyn
Image caption,
LLUN: SSPL/Getty Images

Mae bara’n cael ei wneud trwy ddefnyddio pum rhan o flawd i dair rhan o hylif.

a) Ysgrifenna gymhareb yr hylif i’r blawd.

b) Os yw’r rysàit yn gofyn am 200 g o flawd, faint o hylif fydd ei angen?

Question

Mae bisgedi cwcis yn cael eu gwneud trwy ddefnyddio’r gymhareb 3:2:1 o flawd, braster a siwgr.

Os yw rysàit yn gofyn am 150 g o flawd, faint o fraster a siwgr sydd eu hangen?