Ffracsiynau
Mae \(\frac {2} {7}\) neu ‘ddau seithfed’ yn golygu dwy ran allan o saith.
I ganfod \(\frac {2} {7}\) o werth, rhaid i ti rannu â 7 yn gyntaf er mwyn canfod beth yw gwerth \(\frac {1} {7}\), ac yna lluosi â 2.
I ganfod ffracsiwn o swm:
- Rhanna â’r enwadurGwaelod ffracsiwn. Ar gyfer ⅝, yr enwadur yw 8 sy'n cynrychioli 'wythfedau'.
- Lluosa â’r rhifiadurRhan uchaf ffracsiwn. Yn y ffracsiwn ⅝, 5 yw'r rhifiadur.
Question
Cyfrifa \(\frac {2} {7}\) o 84.
24.
- Rhanna â’r enwadur: 84 ÷ 7 = 12
- Lluosa â’r rhifiadur: 12 × 2 = 24
Question
Mae 30 o ddisgyblion mewn dosbarth. Mae \(\frac {1} {5}\) o’r disgyblion yn chwarae offeryn cerdd. Faint sydd ddim yn chwarae offeryn?
\(\frac {1} {5}\) o 30 = 30 ÷ 5 = 6 disgybl yn chwarae offeryn cerdd.
Mae hyn yn gadael 30 – 6 = 24 disgybl sydd ddim yn chwarae offeryn.
Canfod y gwerth gwreiddiol
Mae 2/5 o’r bobl sydd ar fws yn blant. Os oes 4 plentyn ar y bws, faint o bobl sydd yna i gyd?
\(\frac {2} {5}\) gwerth = 4
Rhanna â 2 i ganfod \(\frac {1} {5}\)
\(\frac {1} {5}\) gwerth = 2
Lluosa â 5 i ganfod \(\frac {5} {5}\) neu 1 cyfan
10 person i gyd.
Question
Dw i’n bwyta \(\frac {3} {8}\) o far siocled ac mae gen i 20 sgwâr ar ôl, faint o sgwariau oedd yna i gychwyn?
Mae \(\frac {3} {8}\) wedi ei fwyta, sy’n gadael \(\frac {5} {8}\)
\(\frac {5} {8}\) = 20 sgwâr (nawr rhanna â 5).
\(\frac {1} {8}\) = 4 sgwâr (nawr lluosa â 8).
1 cyfan = 32 sgwâr.
Question
Mae tad Louis yn rhoi \(\frac {1} {3}\) yn fwy o arian poced iddo. Mae nawr yn cael £26 y mis. Faint oedd e’n ei gael yn wreiddiol?
£19.50
\(\text {1 cyfan} + \frac {1} {3} = \frac {3} {3} + \frac {1} {3} = \frac {4} {3} \)
\(\frac {4} {3}\) = £26 (nawr rhanna â 4)
\(\frac {1} {3}\) = £6.50 (nawr lluosa â 3)
1 cyfan = £19.50