Ffracsiynau a chanrannauCanrannau o symiau

Mae ffracsiynau a chanrannau’n cynrychioli rhan o rif cyfan. Gallwn eu defnyddio i gynyddu neu leihau gwerth yn ôl cyfran benodol.

Part ofMathemateg RhifeddRhif

Canrannau o symiau

Mae canran yn cynrychioli ffracsiwn o 100. Mae 27% yn golygu \(\frac {27} {100}\).

Dull cyfrifiannell

I ganfod canran o swm, gallwn rannu â 100 i ganfod 1% ac yna lluosi i ganfod y ganran dan sylw.

Question

Cyfrifa 23% o 460.

Dull heb gyfrifiannell

Un ffordd ddefnyddiol o ganfod canrannau heb ddefnyddio cyfrifiannell yw drwy gychwyn â 10%, a chawn hynny trwy rannu 100% â 10.

Gyda 10% gallwn luosi a rhannu i ganfod canrannau eraill. Gallwn hefyd adio rhannau at ei gilydd i ganfod y ganran dan sylw.

Question

Cyfrifa 40% o 35.

Question

Cyfrifa 15% o 60.

Question

Cyfrifa 28% o 50.