Disgowntiau a bargeinion gorau
Mae’r dudalen hon yn canolbwyntio ar ddefnyddio canrannau i ddatrys problemau. Edrycha ar Ffracsiynau a chanrannau er mwyn atgoffa dy hun am ganrannau.
Mae Deli Dylan yn tynnu 30% oddi ar brisiau eu brechdanau am 3pm.
Cyfrifa gost y brechdanau hyn ar ôl 3pm:
- brechdan ham, a oedd yn costio £2.50 yn wreiddiol
- brechdan falafel, a oedd yn costio £4
Brechdan ham
1. Cyfrifa 30% o £2.50:
£2.50 ÷ 100 × 30 = £0.75.
Felly mae disgownt o 75c.
2. Tynna’r disgownt o’r gwerth gwreiddiol:
£2.50 - £0.75 = £1.75.
Mae’r frechdan ham yn costio £1.75 ar ôl y disgownt.
Brechdan falafel
£4 ÷ 100 × 30 = £1.20.
£4 - £1.20 = £2.80.
Mae’r frechdan falafel yn costio £2.80 ar ôl y disgownt.
Efallai i ti sylwi bod mwy o ddisgownt ar y frechdan falafel. Mae hyn oherwydd bod y pris gwreiddiol yn uwch.
Mae ffordd arall o gyfrifo hyn. Mae 30% yn cael ei dynnu oddi ar brisiau brechdanau, sy’n golygu bod y pris gostyngol yn 70% o’r pris gwreiddiol.
Brechdan ham
70% o £2.50 = £2.50 ÷ 100 × 70 = £1.75.
Brechdan falafel
70% o £4.00 = £4.00 ÷ 100 × 70 = £2.80.
Question
Mae gan siop Sêledu deledu gwerth £400 ar werth yn y sêl am £80 yn rhatach. Mae gan Taclau'r To yr un teledu a oedd yn costio £350 yn wreiddiol, gyda 22% o ostyngiad arno yn y sêl. Pwy sydd wedi rhoi’r gostyngiad mwyaf ar bris y teledu a pha deledu yw’r rhataf nawr?
| Gostyngiad | Pris yn y sêl | |
| Top TV | £80 | £400 - £80 = £320 |
| Attic Appliances | £350 ÷ 100 × 22 = £77 | £350 - £77 = £273 |
| Top TV | |
| Gostyngiad | £80 |
| Pris yn y sêl | £400 - £80 = £320 |
| Attic Appliances | |
| Gostyngiad | £350 ÷ 100 × 22 = £77 |
| Pris yn y sêl | £350 - £77 = £273 |
Top TV sydd wedi rhoi’r gostyngiad mwyaf ar bris y teledu ond mae’r teledu’n rhatach yn Attic Appliances.
Mae ffordd arall o gyfrifo’r pris yn Attic Appliances.
Mae gostyngiad o 22% ar y pris, sy’n golygu bod y pris gostyngol yn 78% o’r pris gwreiddiol.
78% o £350 = £350 ÷ 100 × 78 = £273