Newid canrannauArbrisiant, dibrisiant, adlog [Canolradd ac Uwch]

Gallwn ddefnyddio canrannau i gynyddu neu leihau swm mewn perthynas â’i faint, ee siopau’n tynnu canran oddi ar eu prisiau a’r llywodraeth yn cynyddu cost nwyddau trwy ychwanegu treth ganrannol.

Part ofMathemateg RhifeddRhif

Arbrisiant, dibrisiant ac adlog – haenau canolradd ac uwch

Pan fydd gwerth yn arbrisio, bydd yn cynyddu yn ei werth. Os yw’n dibrisio, mae’n lleihau yn ei werth.

Wrth gyfrifo adlog, mae’n bwysig i ti ddeall bod y llog a enillir yn cael ei ychwanegu ar ddiwedd y flwyddyn. Y flwyddyn nesaf, bydd y llog yn cael ei gyfrifo ar y swm newydd hwn. Mae hyn yn golygu y bydd y gwerth yn uwch ar gychwyn y flwyddyn ganlynol ac felly bydd y llog a enillir hefyd yn fwy.

Enghraifft

Mae Frederick yn buddsoddi £400 yn ei gyfrif cynilo, gyda’r llog yn cael ei dalu ar 2% y flwyddyn i mewn i’r un cyfrif. Cyfrifa faint sydd ganddo ar ôl tair blynedd.

Ateb 1

Dechrau blwyddyn 1: £400.

£400 ÷ 100 × 2 = £8 o log.

Dechrau blwyddyn 2: £400 + £8 = £408.

£408 ÷ 100 × 2 = £8.16 o log.

Dechrau blwyddyn 3: £408 + £8.16 = £416.16.

£416.16 ÷ 100 × 2 = £8.3232 o log = £8.32 (i'r geiniog agosaf).

Ar ddiwedd y tair blynedd, mae gan Frederick £416.16 + £8.32 = £424.48.

Ateb 2

Ar ddiwedd bob blwyddyn, bydd gan Frederick 100% + 2% = 102% o’r hyn oedd ganddo ar ddechrau’r flwyddyn. Drwy ganfod 102% o’r gwerth, nid oes raid i ni ychwanegu’r llog drwy’r amser.

£400 ÷ 100 × 102 = £408.

£408 ÷ 100 × 102 = £416.16.

£416.16 ÷ 100 × 102 = £424.4832 = £424.48 (i'r geiniog agosaf).

Ateb 3

Gan fod y gwerth ar ddiwedd y flwyddyn yn 102% o’r gwerth ar ddechrau’r flwyddyn, gallwn gynrychioli hyn trwy ddefnyddio’r lluosydd 1.02.

I ganfod y gwerth ar ôl tair blynedd o adlog, gallwn gyfrifo 400 × 1.023 = £424.4832 = £424.48 (i'r geiniog agosaf).

Mae’r dull hwn yn hynod o ddefnyddiol pan fyddwn eisiau cyfrifo’r llog ar ôl nifer fawr o flynyddoedd.

Enghraifft

Mae car newydd yn cael ei brynu am £45,000. Bob blwyddyn, mae’n dibrisio 12.5%. Cyfrifa beth fydd ei werth ar ôl dwy flynedd.

Ateb 1

Blwyddyn 1: £45,000.

£45,000 ÷ 100 × 12.5 = £5,625 o ddibrisiant.

Blwyddyn 2: £45,000 - £5,625 = £39,375.

£39,375 ÷ 100 × 12.5 = £4,921.875 o ddibrisiant.

Diwedd blwyddyn 2:

£39,375 - £4,921.875 = £34,453.125 = £34,453.13 (i'r geiniog agosaf).

Ateb 2

Mae’r car yn colli 12.5% o’i werth, felly ar ddiwedd y flwyddyn mae ei werth yn 100% - 12.5% = 87.5%.

Fel lluosydd, mae hyn yn 87.5 ÷ 100 = 0.875.

I ganfod y gwerth ar ôl dwy flynedd o ddibrisiant, gallwn gyfrifo:

£45,000 × 0.8752 = £34,453.125 = £34,453.13 (i'r geiniog agosaf).

Question

Mae project bridio’n cael ei sefydlu, gan gychwyn gyda 20 pysgodyn. Maen nhw’n bridio ar gyfradd o 35% y flwyddyn. Faint o bysgod sydd yna ar ôl chwe blynedd? (Rho dy ateb i’r rhif cyfan agosaf.)

Question

Os yw poblogaeth ynys yn 26,000 ac mae’n lleihau ar gyfradd o 1% y flwyddyn, faint o bobl fydd yna ar ôl 20 mlynedd? Rho dy ateb i’r rhif cyfan agosaf.