Newid canrannauArbrisiant a dibrisiant syml

Gallwn ddefnyddio canrannau i gynyddu neu leihau swm mewn perthynas â’i faint, ee siopau’n tynnu canran oddi ar eu prisiau a’r llywodraeth yn cynyddu cost nwyddau trwy ychwanegu treth ganrannol.

Part ofMathemateg RhifeddRhif

Arbrisiant a dibrisiant syml

Wrth gyfrifo arbrisiant a dibrisiant syml, mae’r gwerth yn aros yn sefydlog bob blwyddyn.

Enghraifft

Mae Anita yn buddsoddi £300 yn ei chyfrif cynilo. Mae’n ennill 2.5% o log syml , sy’n cael ei dalu i gyfrif ar wahân. Mae’n gadael yr arian hwn yn ei chyfrif am bum mlynedd. Beth yw cyfanswm y llog mae’n ei ennill a beth yw cyfanswm yr arian sydd ganddi nawr?

Ateb

1. Cyfrifa werth y llog am un flwyddyn:

£300 ÷ 100 × 2.5 = £7.50.

2. Lluosa hwn â nifer blynyddoedd y buddsoddiad:

£7.50 × 5 = £37.50.

Mae gan Anita £337.50 nawr.

Question

Mae Evan yn cymryd benthyciad o £1,000 dros dair blynedd. Codir llog syml o 8% pa (bob blwyddyn). Faint fydd ef wedi ei dalu’n ôl erbyn y diwedd?

Question

Mae Ynys Ffôn yn rhyddhau ffôn newydd bob blwyddyn. O ganlyniad, mae modelau blaenorol yn dibrisio (lleihau) 20% yn eu gwerth o’r pris gwreiddiol. Faint fyddai gwerth ffôn sy’n costio £200 ar ôl tair blynedd?