Arian tramor a chyfraddau cyfnewidCyfraddau cyfnewid o £1

Pan fyddi di’n mynd dramor, bydd yn rhaid i ti newid dy arian. Mae’n bwysig dy fod yn gwybod y gyfradd gyfnewid a'r ffi gomisiwn sy’n rhaid i ti ei thalu er mwyn cael y fargen orau bosib.

Part ofMathemateg RhifeddRhif

Cyfraddau cyfnewid o £1

Yr arian sy’n cael ei ddefnyddio yng ngwledydd Prydain yw punnoedd Prydeinig, neu bunnoedd sterling. Pan fyddwn yn cyfeirio at arian tramor, rydyn ni’n sôn am yr arian mae gwlad wahanol yn ei ddefnyddio, megis baht yng Ngwlad Thai neu rupee yn India.

Nid yw gwerth arian pob gwlad yr un fath. Rydyn ni’n defnyddio cyfraddau cyfnewid i drawsnewid o un arian tramor i un arall.

Mae cyfraddau cyfnewid yn cael eu cyhoeddi mewn papurau newydd ac ar-lein, lle mae’r bunt yn cael ei gosod yn erbyn arian gwahanol wledydd tramor. Mae’r tabl hwn yn dangos enghreifftiau o gyfraddau cyfnewid ond maen nhw’n newid trwy’r amser i adlewyrchu’r economi gyfredol.

GwladArianY gyfradd gyfnewid i bunnoedd Prydeinig
DenmarcKroner10.38
JapanYen Japan190.49
Gweriniaeth De AffricaRand19.33
Y SwistirFfranc y Swistir1.46
EwrodirEwro1.39
Unol Daleithiau AmericaDoleri1.55
GwladDenmarc
ArianKroner
Y gyfradd gyfnewid i bunnoedd Prydeinig10.38
GwladJapan
ArianYen Japan
Y gyfradd gyfnewid i bunnoedd Prydeinig190.49
GwladGweriniaeth De Affrica
ArianRand
Y gyfradd gyfnewid i bunnoedd Prydeinig19.33
GwladY Swistir
ArianFfranc y Swistir
Y gyfradd gyfnewid i bunnoedd Prydeinig1.46
GwladEwrodir
ArianEwro
Y gyfradd gyfnewid i bunnoedd Prydeinig1.39
GwladUnol Daleithiau America
ArianDoleri
Y gyfradd gyfnewid i bunnoedd Prydeinig1.55

I drawsnewid o bunnoedd Prydeinig i arian tramor, rwyt ti’n lluosi â’r gyfradd gyfnewid.

Fformiwla i drawsnewid arian tramor a chyfraddau cyfnewid £1 = €1.39 (x 1.39)

Enghraifft

£20 × 1.39 = €27.80.

Question

Mae Emma yn mynd i Weriniaeth De Affrica ac eisiau cyfnewid £250. Yn ôl y tabl uchod, sawl rand ddylai hi ei gael?

I drawsnewid o arian tramor i bunnoedd Prydeinig, rwyt ti’n rhannu â’r gyfradd gyfnewid.

Fformiwla i drawsnewid arian tramor a chyfraddau cyfnewid £1 = €1.39 (÷ 1.39)

Enghraifft

€278 ÷ 1.39 = £200.

Question

Mae gan Emma 85 rand ar ôl pan ddaw hi adref o Weriniaeth De Affrica. Faint yw gwerth hyn mewn punnoedd Prydeinig?