Trawsnewid ariannau gwahanol - haenau canolradd ac uwch
Weithiau bydd yn cymryd nifer o gamau i ddatrys problemau go iawn sy’n ymwneud â chyfraddau cyfnewid. Gwna’n siŵr dy fod yn ysgrifennu pob sym fel y gelli ddilyn y gwaith cyfrifo hyd y diwedd.
Question
Mae Alison angen o leiaf £700 mewn baht Thai ar gyfer ei gwyliau i Wlad Thai.
Pan fydd yn mynd i’r banc, maen nhw’n dweud wrthi mai £1 = 52.66 baht Thai yw’r gyfradd gyfnewid. Mae hefyd yn canfod mai’r darn papur lleiaf mae’r banc yn gallu ei roi iddi mewn baht Thai yw 50.
Beth yw’r isafswm sy’n rhaid i Alison ei brynu i wneud yn siŵr bod ganddi werth o leiaf £700 mewn baht Thai a faint mae hi’n ei dalu amdanyn nhw?
- Gelli drawsnewid £700 i baht Thai trwy luosi â’r gyfradd gyfnewid: £700 × 52.66 = 36,862 baht Thai
- Mae Alison angen o leiaf 36,862, mae hyn yn golygu na all hi gael dim llai na hynny. Gan mai 50 baht Thai yw’r darn papur lleiaf sydd gan y banc – talgrynna i fyny i’r 50 agosaf. Bydd Alison angen 36,900 baht Thai.
- Gelli drawsnewid 36,900 baht Thai i bunnoedd Prydeinig i ganfod faint fydd hyn yn ei gostio (rhanna â’r gyfradd gyfnewid). 36,900 ÷ 52.66 = 700.72161
- Talgrynna’r ateb terfynol i ddau le degol ac ysgrifenna dy ateb yn eglur.
Bydd Alison angen 36,900 baht Thai a bydd yn costio £700.72 iddi.
Question
Mae Bryce wedi cynilo £300 ar gyfer ei wyliau i México.
Pan fydd yn mynd i’r banc, mae’n canfod mai 100 peso México yw’r darn papur lleiaf sydd ganddyn nhw.
Y gyfradd gyfnewid yw £1 = 24.40 peso México.
Sawl peso México y gall Bryce eu prynu a faint y bydd hyn yn ei gostio iddo mewn punnoedd Prydeinig?
- Gelli drawsnewid £300 i peso México trwy luosi â’r gyfradd gyfnewid: £300 × 24.40 = 7,320 peso México.
- £300 yn unig sydd gan Bryce, mae hyn yn golygu nad yw’n gallu cael dim mwy. Gan mai’r darn papur lleiaf yw 100 peso México – talgrynna i lawr i’r 100 agosaf. Bydd Bryce angen 7,300 peso México.
- Gelli drawsnewid 7,300 peso México i bunnoedd Prydeinig er mwyn canfod faint y bydd hyn yn ei gostio (rhanna â’r gyfradd gyfnewid) 7,300 ÷ 24.40 = 299.18032
- Talgrynna’r ateb terfynol i ddau le degol ac ysgrifenna dy ateb yn eglur
Bydd Bryce angen 7,300 peso México a bydd yn costio £299.18 iddo.
Question
Aeth Ceri ar ei wyliau i’r Almaen a phrynu camera am €320.
Y gyfradd gyfnewid pan brynodd ef y camera oedd €1 = £0.72.
Aeth Jessica i Moroco a phrynu’r un camera am 3,018 dirham.
Y gyfradd gyfnewid ar y pryd oedd £1= 15.09 dirham Moroco.
Canfydda pwy wnaeth brynu’r camera am y pris rhataf ac ysgrifenna’r gwahaniaethUn rhif wedi ei dynnu o'r llall. Er enghraifft, y gwahaniaeth rhwng 8 a 2 yw 6 am fod 8 - 2 = 6. rhwng y prisiau.
Camera Ceri
Y gyfradd gyfnewid: €1 = £0.72.
Gan ddefnyddio’r gyfradd gyfnewid hon, lluosa’r ewros â 0.72 i gyfrifo’r punnoedd:
€320 × 0.72 = £230.40.
Camera Jessica
Y gyfradd gyfnewid: £1 = 15.09 dirham.
Gan ddefnyddio’r gyfradd gyfnewid hon, rhanna’r dirham â 15.09 i gyfrifo’r punnoedd:
3,018 ÷ 15.09 = £200.
- Jessica a brynodd ei chamera am y pris rhataf.
- Y gwahaniaeth rhwng y prisiau oedd £30.40.
Question
Gwnaeth Julie gyfnewid £200 am 1,100 real Brasil.
Gorffenna’r datganiad canlynol, gan roi dy ateb i ddau le degol.
Y gyfradd gyfnewid: mae £1 yn prynu ___ real Brasil.
Mae £1 yn prynu 5.50 real Brasil.
Gelli feddwl am y cwestiwn hwn fel cymhareb.
£200 ÷ 200 = £1.
1,100 real Brasil ÷ 200 = 5.50 real Brasil.