Arian tramor a chyfraddau cyfnewidCyfraddau cyfnewid o arian tramor

Pan fyddi di’n mynd dramor, bydd yn rhaid i ti newid dy arian. Mae’n bwysig dy fod yn gwybod y gyfradd gyfnewid a'r ffi gomisiwn sy’n rhaid i ti ei thalu er mwyn cael y fargen orau bosib.

Part ofMathemateg RhifeddRhif

Cyfraddau cyfnewid o arian tramor

Weithiau bydd y cyfraddau cyfnewid yn dangos faint yw gwerth un uned o arian tramor mewn punnoedd Prydeinig.

Gallai un uned o arian tramor gyfeirio at $1 yn UDA, €1 yn Ffrainc neu ¥1 yn Japan.

Casgliad o arian papur tramor
Image caption,
Arian papur tramor LLUN: Peter Dazeley

Enghraifft 1

Y gyfradd gyfnewid o ddoleri UDA i’r bunt Brydeinig yw $1 = £0.64.

Gan mai doleri yw’r uned sengl:

  • lluosa i newid o ddoler UDA i’r bunt Brydeinig
  • rhanna i newid o’r bunt Brydeinig i ddoler UDA

Efallai y bydd y diagram hwn yn dy helpu i ddychmygu’r trawsnewid yn fwy eglur:

Fformiwla i drawsnewid arian tramor a chyfraddau cyfnewid $1 = £0.64 (x0.64) (÷ 0.64)

Enghraifft 2

Cyfrifa werth $30 mewn punnoedd Prydeinig.

$30 × 0.64 = £19.20.

Enghraifft 3

Cyfrifa werth £57 mewn doleri UDA.

£57 ÷ 0.64 = $89.0625.

$89.06 (i ddau le degol).

Question

€1 = £0.72

  1. Beth yw €85 mewn punnoedd Prydeinig?
  2. Beth yw £50 mewn ewros?