Biliau gwasanaeth
Pan fyddi di'n prynu neu'n rhentu eiddo, byddi di angen cyflenwad o wasanaethau fel trydan a nwy i sicrhau dy fod yn gallu cynnau dy oleuadau, gwefru dy ffôn symudol a gwresogi dy dŷ.
Darlleniadau mesurydd
Bydd y rhan fwyaf o gwmnïau’n mesur faint o drydan, nwy neu ddŵr sy'n cael ei ddefnyddio mewn cartref trwy fesurydd.
Yn aml bydd pobl yn darllen eu mesurydd eu hunain ac yn anfon y darlleniad i'r cwmni sy'n cyflenwi eu trydan neu nwy. Bydd eu biliau'n dangos dau ddarlleniad mesurydd - y darlleniad mesurydd blaenorol a'r un presennol.
Os nad yw'r mesurydd wedi cael ei ddarllen, yna bydd y cwmni ynni'n amcangyfrif darlleniad ar sail defnydd y cwsmer yn y gorffennol.
Mae'r gwahaniaeth rhwng y ddau ddarlleniad mesurydd yn dangos faint o nwy neu drydan sydd wedi cael ei ddefnyddio yn ystod y cyfnod rhwng darlleniadau mesurydd. Felly i weithio allan cost dy fil diweddaraf, mae'n rhaid i ti dynnu'r darlleniad mesurydd blaenorol i ffwrdd o'r darlleniad mesurydd presennol. Pan fyddi di'n gwybod faint wyt ti wedi defnyddio, lluosa'r swm â'r gost uned.
Cofia fod tâl sefydlog yn cael ei ychwanegu i dalu am gostau ychwanegol.
Enghraifft sylfaenol
Mae Megan yn cael bil trydan. Dyma'r manylion:
Beth yw cyfanswm cost y trydan gan gynnwys TAWTreth ar werth. Treth gan y llywodraeth sy'n cael ei hychwanegu at gost y rhan fwyaf o nwyddau a gwasanaethau. Yn 2015 y gyfradd arferol oedd 20% tra bod cyfradd ostyngol o 5% yn cael ei chodi ar rai nwyddau a gwasanaethau, ee egni’r cartref..
Datrysiad
Tynna'r darlleniad mesurydd blaenorol i ffwrdd o'r darlleniad mesurydd presennol i ddod o hyd i nifer yr unedau sydd wedi cael eu defnyddio.
8,800 – 7,000 = 1,800 uned
Lluosa â'r gost fesul uned.
1,800 × 4 = 7,200c
Paid ag anghofio newid i bunnoedd.
7,200p ÷ 100 = £72
Ychwanega'r tâl gwasanaeth.
£72 + £10 = £82
I ddod o hyd i'r TAW, mae'n rhaid i ti ddod o hyd i 5% o £82.
Cyfrifiannell
5/100 × 82 = £4.10
Heb gyfrifiannell
Byddi di'n dod o hyd i 10% trwy rannu â 10.
£82 ÷ 10 = £8.20
Mae 5% yn hanner 10%.
£8.20 ÷ 2 = £4.10
Ychwanega'r TAW
£82 + £4.10 = £86.10
Mwy o enghreifftiau
Mae'r ffioedd canlynol yn cael eu codi ar bâr ifanc sy'n byw mewn fflat â dwy ystafell wely am eu gwasanaethau.
Ar ddechrau ac ar ddiwedd y chwarterChwarter yw tri mis. Gan fod 12 mis mewn blwyddyn, mae tri mis yn chwarter blwyddyn., cafodd darlleniadau mesurydd ar gyfer dŵr a thrydan eu cofnodi.
Cyfrifa faint o arian cafodd ei wario ar ddŵr a thrydan y chwarter hwn.
Cost dŵr
Byddi di'n dod o hyd i swm y dŵr y cafodd ei ddefnyddio trwy dynnu'r darlleniad mesurydd blaenorol i ffwrdd o'r darlleniad mesurydd presennol.
7,200 - 6,700 = 500m3
Am bob m3 sy'n cael ei ddefnyddio, byddi di'n talu 35c.
Am 500m3 byddi di'n talu 500 × 35 = 17,500c = £175.
£10 y chwarter yw'r tâl sefydlog.
Felly at ei gilydd, cost dŵr ar gyfer y cyfnod hwn yw £185.
Cost trydan
Byddi di'n dod o hyd i swm y trydan y cafodd ei ddefnyddio trwy dynnu'r darlleniad mesurydd blaenorol i ffwrdd o'r darlleniad mesurydd presennol.
9,800 – 8,000 = 1,800 kWh
Am bob kWh sy'n cael ei ddefnyddio, byddi di'n talu 10c.
1,800 × 10 = 18,000c
Mae angen i'r holl unedau fod yr un fath, felly bydd angen i ni newid ceiniogau i bunnoedd trwy rannu â 100.
I newid punnoedd i geiniogau, mae'n rhaid i ti luosi â 100.
18,000c ÷ 100 = £180
Y tâl sefydlog am dri mis yw £4 × 3 = £12.
Cost trydan ar gyfer y cyfnod hwn yw £192.
Felly byddi di'n dod o hyd i'r cyfanswm ar gyfer dŵr a thrydan trwy adio'r ddau swm. £185 + £192 = £377.
Credyd a Debyd
Yn aml bydd pobl yn dewis talu eu biliau trwy ddebyd uniongyrchol. Mae hyn yn golygu bod yr arian yn cael ei dalu'n awtomatig o dy gyfrif bob mis. Yna bydd yr arian hwn yn cael ei dynnu o dy fil. Bydd debydau uniongyrchol yn ymddangos fel credydau ar dy gyfrif neu CR. Os bydd arnat ti arian, bydd yn ymddangos fel DB, sy'n golygu debyd.
Question
Mae Billy wedi bod yn talu am nwy trwy ddebyd uniongyrchol bob mis ar gyfer Ionawr, Chwefror a Mawrth. Mae'n cael gostyngiad £30 am dalu trwy ddebyd uniongyrchol. Mae ei fil ar gyfer Ebrill yn dangos y darlleniadau mesurydd canlynol, a chost pob uned yw 12c.
Cwblha'r tabl isod i ddod o hyd i faint o arian sydd arno.
Mae hyn yn golygu bod arno Billy £3.10.