Cyllid y cartrefMorgeisi

Gall prynu neu rentu cartref fod yn dasg ddrud. Bydd meddwl am y fathemateg y tu ôl i gyllid y cartref yn dy helpu yn y dyfodol pan fyddi di'n symud i mewn i dy eiddo dy hun.

Part ofMathemateg RhifeddRhif

Morgeisi

Prynu tŷ yw un o'r pryniannau mwyaf gall unigolyn ei wneud. Bydd yn rhaid i'r rhan fwyaf o bobl gael math arbennig o fenthyciad o'r enw morgais. Po fwyaf yr arian byddi di'n ei fenthyg, y mwyaf byddi di'n talu'n ôl mewn taliadau llog. Hefyd po hiraf yr amser byddi di'n cymryd i ad-dalu dy forgais, y mwyaf o log byddi di'n talu.

Bydd maint y morgais alli di gael yn dibynnu ar faint dy gyflog. Mae cwmni morgais yn tueddu i roi benthyg 2 ½ gwaith dy gyflog yn unig.

Os wyt ti'n prynu eiddo efo rhywun arall, bydd maint y morgais wedi'i seilio ar gyflogau'r ddau ohonoch chi. Fel arfer bydd y cwmni morgais yn defnyddio'r cyfrifiad canlynol i weithio allan faint i'w gynnig: 2 ½ gwaith y cyflog mwyaf ac 1 waith y cyflog llai. Cyfrifiannell fforddiadwyedd yw enw hwn ac mae'n dweud wrth y cwmni a wyt ti'n gallu fforddio prynu'r tŷ.

Cyfrifiadau fforddiadwyedd

Fforddiadwyedd unigolyn sengl = (cyflog) × 2.5

Fforddiadwyedd dau unigolyn = 2.5 × (cyflog mwy) + 1 × (cyflog llai)

Enghraifft

Mae pâr ifanc eisiau symud i mewn i fflat gyda'i gilydd. Mae un yn ennill £14,000 ac mae'r llall yn ennill £20,000. Mae ganddyn nhw flaendal o £15,000. Ydyn nhw'n gallu fforddio fflat £130,000 sy'n gofyn am flaendal 10%?

Datrysiad

Nac ydyn, nid yw'r pâr ifanc yn gallu fforddio fflat £130,000.

I weithio allan yr ateb, mae'n syniad da torri'r cyfrifiadau i lawr i gamau gwahanol:

1. Ydyn nhw'n gallu fforddio'r blaendal?

10 % o £130,000 = 0.10 × £130,000 = £13,000

Ydyn, maen nhw'n gallu, oherwydd bod ganddyn nhw £15,000 sy'n fwy na'r £13,000 gofynnol.

2. Faint y mae angen iddyn nhw fenthyg?

£130,000 – £15,000 = £115,000

3. Ydyn nhw'n gallu fforddio'r swm y byddai angen iddyn nhw fenthyg?

Fforddiadwyedd = 2.5 × (cyflog mwy) + 1 × (cyflog llai)

= 2.5 × £20,000 + 1 × £14,000

= £64,000

4. Ydyn nhw'n gallu fforddio fflat £130,000 sy'n gofyn am flaendal 10%?

Er bod gan y pâr ifanc ddigon i'r blaendal, nid ydyn nhw'n ennill digon rhyngddyn nhw i fod yn gallu benthyg £115,000 (dim ond £65,000).

Question

Mae Arron eisiau prynu ei dŷ cyntaf. Mae'n ennill £44,000 ac mae ganddo £50,000 o flaendal. Mae o wedi dod o hyd i dŷ am £150,000 y mae o'n ei hoffi ac mae o eisiau cael morgais â blaendal 20%. A yw hyn yn bosibl?

Ad-daliadau morgais

Mae Leon yn cymharu ffigyrau morgais ar gyfer eiddo y mae arno angen morgais o £55,000 i'w brynu. Gan ddefnyddio cyfrifiannell morgais, mae wedi gweithio allan sut fyddai ei ad-daliadau morgais yn amrywio gan ddibynnu ar hyd y morgais bydd yn ei ddewis.

Tabl yn dangos sut mae taliadau misol yn amrywio gan ddibynnu ar hyd y morgais

Enghraifft

Faint fyddai'n arbed trwy gymryd morgais allan am 20 mlynedd yn hytrach na 30?

Datrysiad

Mae 12 mis ym mhob blwyddyn, felly mae 20 mlynedd yn cael ei gyfrifo fel 20 mlynedd × 12 mis = 240 mis.

Bob mis bydd Leon yn talu £330.

£330 × 240 = £79,200

Mae 12 mis ym mhob blwyddyn felly yn achos 30 mlynedd 30 × 12 = 360 mis.

Bob mis, byddai Leon yn talu £300 petai wedi cymryd y morgais dros 30 mlynedd.

£300 × 360 = £108,000.

Arbediad: £108,000 – £79,200 = £28,800

Mae hyn yn golygu ei fod wedi arbed £28,800 trwy gymryd morgais allan am 20 mlynedd yn hytrach na 30.

Question

Gan ddefnyddio'r un tabl, gweithiwch allan faint fyddai Leon yn talu petai'n cymryd ei forgais allan am 25 mlynedd.