Yswiriant Gwladol a Threth Incwm - haen uchaf
Mae Yswiriant Gwladol (YG) yn dreth byddi di'n talu ar yr arian wyt ti'n ennill.
Enghraifft
Dyma ddyfyniad o wefan y Llywodraeth ynglŷn ag YG.
Mae Emyr yn gweithio i gwmni lleol ac yn cael ei dalu £475 yr wythnos. Mae Owain yn hunangyflogedig a hefyd yn ennill £475 yr wythnos. Beth yw'r gwahaniaeth o ran faint o YG maen nhw'n talu?
Mae Emyr ac Owain y ddau'n talu 0% ar y £155 cyntaf.
Mae'r ddau'n ennill £475 yr wythnos:
£475 - £155 = £320.
Felly dyma'r swm byddan nhw'n talu YG arno.
Mae Emyr yn talu 12% o hyn = 12 ÷ 100 × 320 = £38.40
Mae Owain yn talu 9% o hyn = 9 ÷ 100 × 320 = £28.80
Gwahaniaeth:
£38.40 − £28.80 = £9.60
Datrysiad arall
Ffordd arall byddai cyfrifo 3% o £320 (y gwahaniaeth rhwng 12% a 9%). 3% o £320 = 3 ÷ 100 × 320 = £9.60.
Treth incwm
Dyma fanylion treth incwm ar gyfer 2015-16, o wefan cyngor am arian. Mae'n rhannu cyflogau yn fandiau a bydd canran o dreth yn cael ei thalu ar bob un o'r bandiau hynny.
Felly petaet ti'n ennill £100,000 y flwyddyn, byddai dy gyflog yn cael ei rannu fel hyn:
- Band cyntaf – £0 - £10,600
- Ail fand – £10,600 - £42,385
- Trydydd band – £42,385 - £100,000
Enghraifft
Mae Rhodri'n ennill cyflog o £72,495 y flwyddyn. Cyfrifa faint o dreth mae'n rhaid iddo dalu mewn un flwyddyn. Yna cyfrifa faint o dreth bydd yn rhaid iddo dalu bob wythnos (i'r geiniog agosaf).
Datrysiad
Mae ei gyflog yn cael ei rannu'n dri band:
Band cyntaf
Mae'n talu 0% treth ar y £10,600 cyntaf.
Ail fand
Mae'n talu 20% ar £10,600 hyd £42,385
£42,385 − £10,600 = £31,785
20 ÷ 100 × £31,785 = £6,357
Trydydd band
Mae'n talu 40% ar £42,385 hyd £72,495
£72,495 − £42,385 = £30,110
40 ÷ 100 × £30,110 = £12,044
Cyfanswm y dreth y flwyddyn = £6,357 + £12,044 = £18,401
Treth yr wythnos = £18,401 ÷ 52 = £353.8653846 = £353.87 (i'r geiniog agosaf).