O gynllunio taith ar fws neu drên i drefnu beth i'w wylio ar deledu neu archebu gwyliau haf, mae amserlenni yn ein helpu i ganfod ein ffordd drwy’r byd ac i gynllunio ein hamser.
Mae amserlen rhaglenni teledu yn dangos pa raglenni sy’n cael eu dangos ar ba sianel, am faint o’r gloch ac am ba mor hir mae’r rhaglen yn para.
Gellir eu cyflwyno mewn un o'r ffyrdd canlynol:
yn ôl sianel
yn ôl amserlen
yn ôl amser, hy faint o’r gloch mae pob rhaglen yn cael ei dangos, neu fel llinell amser sy’n dangos beth sy’n cael ei ddangos ar amser penodol.
Mae amserlenni rhaglenni teledu ar gael ar-lein, mewn papurau newydd ac ar y teledu.
Dyma amserlen deledu ar gyfer pedair sianel wahanol rhwng 5pm a 10pm.
Question
Os bydda i’n troi i’r Sianel Coginio ar ddiwedd Saffari ar Byd Natur, pa raglen fydd ymlaen?
Llond y lle o lolis.
Mae Saffari yn gorffen am 8:15pm, sef 15 munud ar ôl i Llond y lle o lolis ddechrau.
Question
Os bydda i’n gwylio Gwybod y Gêm a’r Tywydd ar Byd Natur, faint o Blas ar Gaws bydda i wedi’i golli?
45 munud.
Mae Gwybod y Gêm ar y teledu rhwng 5pm - 5:30pm
Mae’r Tywydd ar y teledu rhwng 5:30pm - 5:45pm
Dechreuodd Blas ar Gaws am 5pm felly byddi di wedi colli 45 munud
Gellir dangos amserlenni rhaglenni hefyd fel llinell-amser o ddigwyddiadau.
Question
Faint o’r gloch mae Giamocs yn y gofod yn dechrau?
Faint o’r gloch mae Giamocs yn y gofod yn gorffen?
Am faint o amser mae Giamocs yn y gofod ymlaen?
Amser dechrau – 13:30
Amser gorffen – 15:00
Hyd y rhaglen = 1 ½ awr neu 1 awr a 30 munud
Question
Mae Adam yn bwriadu gwylio Pencampwr reslo, Hela cartrefi a Rhyfeddodau’r byd. Am faint o amser, fel cyfanswm, bydd yn rhaid iddo aros rhwng rhaglenni?
1 awr.
Mae Pencampwr reslo yn gorffen am 14:00 ac mae Hela cartrefi yn dechrau am 14:30 = 30 munud o aros
Mae Hela cartrefi yn gorffen am 15:30 ac mae Rhyfeddodau’r byd yn dechrau am 16:00 = 30 munud o aros
Cyfanswm amser aros = 30 munud + 30 munud = 60 munud = 1 awr