O gynllunio taith ar fws neu drên i drefnu beth i'w wylio ar deledu neu archebu gwyliau haf, mae amserlenni yn ein helpu i ganfod ein ffordd drwy’r byd ac i gynllunio ein hamser.
Part ofMathemateg RhifeddRhif
Mae siartiau pellter yn dangos pa mor bell y mae un lle o le arall.
Gallan nhw gael eu rhoi mewn unrhyw uned o filimetrau i gilometrau neu filltiroedd.
Mae’r rhifau ar y siart hwn yn dangos y pellter, mewn metrau, rhwng un ystafell ddosbarth ag un arall.
Os wyt ti yn yr ystafell ddosbarth Mathemateg, pa mor bell i ffwrdd mae’r ystafell ddosbarth Hanes?
Y pellter rhwng Mathemateg a Hanes yw 36 m.
Mae’r siart hwn yn dangos y pellteroedd, mewn milltiroedd, rhwng pedwar lle yng Nghymru.
Mae rhywun wedi gofyn i ti gynllunio taith diwrnod.
Mae’n rhaid i ti gychwyn a gorffen yng Nghaernarfon, ymweld â Bae Penrhyn ac un lle arall.
Gweithia allan â ble dylet ti ymweld, a’r pellter fydd yn cael ei deithio.
1. Ystyria’r gwahanol opsiynau sydd ar gael:
C B P C neu C P B C
C L P C neu C P L C
2. Cyfrifa’r pellteroedd ar gyfer pob opsiwn:
C B P C
9 + 21 + 30 = 60 milltir
C P B C
30 + 21 + 9 = 60 milltir
Efallai y byddi di’n sylwi yma nad yw’r drefn y byddi di’n ymweld â’r llefydd yn gwneud gwahaniaeth, gan fod y pellter yr un faint.
C L P C
8 + 29 + 30 = 67 milltir
3. Cyflwyna dy ateb terfynol yn eglur:
Y daith fyrraf yw ymweld â Bae Penrhyn a Bangor – mae’r pellter i’w deithio yn 60 milltir.