AmserlenniGwybodaeth trefnu gwyliau

O gynllunio taith ar fws neu drên i drefnu beth i'w wylio ar deledu neu archebu gwyliau haf, mae amserlenni yn ein helpu i ganfod ein ffordd drwy’r byd ac i gynllunio ein hamser.

Part ofMathemateg RhifeddRhif

Gwybodaeth trefnu gwyliau

Wrth drefnu gwyliau mae yna lawer o elfennau i’w hystyried megis cyrchfan, dyddiadau, amseroedd hedfan ac argaeledd gwesty.

Mae’r siart hwn yn dangos cost gwyliau mewn dau westy gwahanol.

Siart yn dangos cost gwyliau mewn dau westy gwahanol

Question

Faint fyddai’n costio i gwpl ag un plentyn aros ym Mharc Paradwys am saith noson yn ystod tymor canolig?

Question

Mae teulu o ddau oedolyn a dau blentyn yn dymuno mynd ar wyliau yn ystod tymor isel. Maen nhw’n gallu aros am 7 neu 10 noson. Cyfrifa gostau posibl eu harhosiad ac argymhella ym mha westy dylen nhw aros.

Question

Mae Sarah yn trefnu gwyliau saith diwrnod i dref Marseille yn Ffrainc. Mae’r daith awyren yn cymryd dwy awr. Er bod gwahaniaeth amser rhwng y DU a Ffrainc, nid oes angen ystyried hyn fel rhan o’r cwestiwn.

Siart yn dangos yr opsiynau gwahanol ar gyfer trefnu gwyliau 7-noson yn Marseille

Mae’n rhaid i’r gwyliau fodloni’r gofynion canlynol:

  • Mae’n rhaid gadael ar ôl 10 Awst
  • Mae’n rhaid hedfan o faes awyr yn Llundain

Byddai hi’n hoffi bodloni cymaint o’r amodau canlynol â phosibl:

  • Hedfan o Heathrow Llundain
  • Cyrraedd cyn 2pm
  • Bod gan yr ystafell olygfa o’r môr

Argymhella pa opsiwn/opsiynau dylai Sarah ddewis.