Amserlenni trên
Mae amserlenni trên yn dangos faint o’r gloch bydd trenau’n cyrraedd ac yn gadael pob gorsaf. Galli di ddefnyddio amserlenni trên i gyfrifo faint o amser bydd dy daith yn ei gymryd a phryd byddi di’n cyrraedd pen dy daith.
Wrth gynllunio taith â stopiau a newidiadau efallai y bydd angen i ti weithio ymlaen o dy amser gadael neu weithio yn ôl o dy amser cyrraedd.
Bydd angen i ti fod yn gyfarwydd â’r cloc 12-awr a’r cloc 24-awr cyn dechrau.
Dyma rannau o ddwy amserlen trên.
Caerdydd i Lundain
Llundain i Gaerdydd
Mae Siân yn byw yng Nghaerdydd ac mae ganddi gyfweliad am swydd yn Reading am 15:45. Mae hi eisiau cyrraedd deg munud cyn i’r cyfweliad ddechrau ac mae'n credu y bydd yn cymryd 25 munud iddi gerdded i’r swyddfa. Cyfrifa’r amser hwyraf mae hi’n gallu gadael gorsaf drenau Caerdydd Canolog.
I gyfrifo’r amser gadael, gweithia’n ôl o amser y cyfweliad.
- Amser dechrau’r cyfweliad - 15:45
- Cyrraedd y cyfweliad (deg munud yn gynharach) - 15:35
- Gadael yr orsaf drenau (25 munud yn gynharach) - 15:10
- Mae trenau’n cyrraedd Reading am 13:31, 14:31, 15:31 a 16:31
- Bydd angen iddi gyrraedd am 14:31
- Gwnaeth y trên sy’n cyrraedd Reading am 14:31 adael Caerdydd am 12:55
Question
Mae Stuart yn cyrraedd Aberdâr am 12:15. Mae’n teithio ar y trên nesaf i Bontypridd lle mae’n cyfarfod â ffrind am un awr.
Yna mae’n dal y trên nesaf i Gaerdydd Canolog ar gyfer cyfarfod. Awr a hanner yn ddiweddarach mae’n dychwelyd i Gaerdydd Canolog ac mae’n dal y trên nesaf i Fanceinion.
Faint o’r gloch mae Stuart yn cyrraedd Manceinion?
I gyfrifo’r amser cyrraedd, gweithia ymlaen o 12.15 pan mae’n cyrraedd gorsaf Aberdâr.
- Gadael Aberdâr ar y trên 12:22
- Cyrraedd Pontypridd am 12:52
- Yn barod i adael Pontypridd un awr yn ddiweddarach am 13:52
- Gadael Pontypridd ar y trên 14:22 a chyrraedd Caerdydd am 14:54
- Yn barod i adael Caerdydd awr a hanner yn ddiweddarach am 16:24 ac yn dal y trên 16:50
- Mae’r trên 16:50 yn cyrraedd Manceinion am 20:15