Arian tramor a chyfraddau cyfnewidComisiwn - haenau canolradd ac uwch

Pan fyddi di’n mynd dramor, bydd yn rhaid i ti newid dy arian. Mae’n bwysig dy fod yn gwybod y gyfradd gyfnewid a'r ffi gomisiwn sy’n rhaid i ti ei thalu er mwyn cael y fargen orau bosib.

Part ofMathemateg RhifeddRhif

Comisiwn - haenau canolradd ac uwch

Mae rhai cwmnïau yn codi comisiwn am gyfnewid dy arian. Gall hyn fod yn:

  • ffi sefydlog
  • wedi ei gynnwys yn y gyfradd gyfnewid
  • canran o’r swm sy’n cael ei gyfnewid

Gall y swm rwyt ti’n ei gyfnewid ddylanwadu ar y cwmni rwyt ti’n ei ddewis.

Enghraifft

Question

Mae Anwen yn mynd ar ei gwyliau ac eisiau cyfnewid £500 i ddoleri Awstralia.

Mae Banc A yn cynnig cyfradd gyfnewid o £1 = 2.08 AUD ac yn codi ffi sefydlog o £5 fesul trafod.

Mae Banc B yn cynnig cyfradd gyfnewid o £1 = 2.02 AUD heb unrhyw gostau ychwanegol.

Pa fanc y dylai Anwen ei ddefnyddio i gael y mwyaf o ddoleri am £500?

Question

Mae Glynn angen €240 ar gyfer ei wyliau i’r Eidal.

Mae Cynilwyr Clyfar yn codi ffi trafod o £4.

Mae Trosglwyddo Arian yn ychwanegu 1.5% at nifer y punnoedd rwyt yn eu newid.

Mae’r ddau gwmni’n cynnig cyfradd gyfnewid o £1 = €1.25.

Cyfrifa faint y bydd €240 yn ei gostio i Glynn yn y ddau gwmni ac awgryma pa gwmni y dylai ei ddefnyddio a pham.