Cynnydd a lleihad canrannol – haenau canolradd ac uwch
Efallai y bydd gofyn i ti hefyd gynyddu gwerth yn ôl canran benodol. Yn yr achos hwn, adia’r newid canrannol.
Darllena’r cwestiwn yn ofalus fel dy fod yn gwybod a wyt ti’n cynyddu neu’n lleihau’r swm.
Question
Cai
- £460 ÷ 100 × 3.1 = £14.26 o gynnydd.
- Rhent newydd: £460 + £14.26 = £474.26 fmc.
Elin
- £484 ÷ 100 × 3.5 = £16.94 o leihad.
- Rhent newydd: £484 − £16.94 = £467.06 fmc.
Mae ffordd arall o gyfrifo’r rhentiau newydd.
Cai
Mae’r cynnydd yn 3.1%, felly mae’r rhent newydd yn 103.1% o’r rhent gwreiddiol.
103.1% o £460 = £460 ÷ 100 × 103.1 = £474.26
Rhent newydd Cai yw £474.26 fmc.
Elin
Mae’r lleihad yn 3.5%, felly mae’r rhent newydd yn 96.5% o’r rhent gwreiddiol.
96.5% o £484 = £484 ÷ 100 × 96.5 = £467.06.
Rhent newydd Elin yw £467.06 fmc.
Gall fod yn ddefnyddiol i ni gyfrifo’r gwerth gwreiddiol ar ôl i ddisgownt gael ei roi arno er mwyn gwybod beth oedd pris yr eitem cyn y disgownt.
Enghraifft
Mae crys sydd â disgownt o 20% arno nawr yn costio £50. Faint oedd e’n ei gostio’n wreiddiol?
Ateb
Gan gymryd bod y pris gwreiddiol yn 100%, gallwn weld bod y pris yn y sêl yn 80% o’r gwerth hwn gan fod 100% − 20% = 80%.
Pris gwreiddiol − 20% = pris yn y sêl.
100% − 20% = 80%.
£50 = 80%.
Rhanna’r ddwy ochr ag 80 i ganfod 1%.
£0.625 = 1%.
Lluosa’r ddwy ochr â 100 i ganfod y pris gwreiddiol.
Y pris gwreiddiol yw £62.50.
Gallwn wirio hyn trwy gyfrifo 80% o’r pris gwreiddiol, a gwirio ei fod yr un peth â’r pris yn y sêl.
80% o £62.50 = £62.50 ÷ 100 × 80 = £50, sy’n gywir.