Ffracsiynau a chanrannauMynegi rhifau fel ffracsiynau a chanrannau

Mae ffracsiynau a chanrannau’n cynrychioli rhan o rif cyfan. Gallwn eu defnyddio i gynyddu neu leihau gwerth yn ôl cyfran benodol.

Part ofMathemateg RhifeddRhif

Mynegi rhifau fel ffracsiynau a chanrannau

Mynegi un gwerth fel ffracsiwn o un arall

Mewn o grŵp dosbarth o 20 person, mae pum person wedi dewis astudio TGAU Celf. Pa ffracsiwn o’r dosbarth fydd yn astudio TGAU Celf?

Mae pum person o gyfanswm o 20. Gallwn ysgrifennu hyn fel \(\frac {5} {20}\).

Gallwn symleiddio’r ffracsiwn hwn trwy rannu’r rhifiadur a’r enwadur â’r un gwerth:

\(\frac {5 \div 5} {20 \div 5}~=~\frac {1} {4}\)

Question

Calendr yn dangos mis Mehefin ac wyth diwrnod glawog

Ym mis Mehefin, mae’n glawio am wyth diwrnod. Am ba ffracsiwn o’r mis wnaeth hi lawio?

Er enghraifft, ni allwn gymharu amser mewn munudau a nifer o oriau. Rhaid i ni’n gyntaf drawsnewid yr amser mewn oriau i funudau.

Rydyn ni fel arfer yn newid i’r uned leiaf er mwyn osgoi gorfod gweithio â degolion.

Question

Mae Johnny 20 munud yn hwyr i weld ffilm sy’n ddwy awr o hyd. Pa ffracsiwn o’r ffilm mae e'n ei fethu?

Mynegi un gwerth fel canran o un arall

Unwaith y byddi di wedi mynegi’r swm fel ffracsiwn o un arall, mae’n bosib ei drawsnewid i ganran.

Dull 1

Mewn pentwr o 32 grawnwin, mae 4 wedi llwydo. Pa ganran o’r grawnwin sydd wedi llwydo?

Clwstwr o rawnwin
  1. Mynega hyn fel ffracsiwn: \(\frac {4} {32}~=~\frac {2} {16}~=~\frac {1} {8}\)
  2. Rhanna’r rhifiadur â’r enwadur: 1 ÷ 8 = 0.125
  3. Lluosa â 100 i drawsnewid i %: 0.125 × 100% = 12.5%

Dull 2

Dw i'n derbyn £25 o arian poced ac yn gwario £7. Pa ganran yw hyn?

  1. Mynega hyn fel ffracsiwn: \(\frac {7} {25}\)
  2. Defnyddia ffracsiynau cywerth er mwyn cael yr enwadur yn 100: \(\frac {7 \times 4} {25 \times 4}~=~\frac {28} {100}\)
  3. Ysgrifenna hyn fel canran: 28%.

Canfod cynnydd canrannol

Mae 15 pysgodyn yn byw mewn tanc pysgod. Ar ôl blwyddyn mae’r pysgod wedi bridio ac mae yna 20 pysgodyn yno nawr. Beth yw canran y cynnydd yn nifer y pysgod?

Tanc pysgod yn cynnwys 15 pysgodyn aur
  1. Cyfrifa’r newid: 20 – 15 = 5
  2. Mynega’r newid fel canran o’r gwerth gwreiddiol: \(\frac {5} {15}~=~\frac {1} {3}~=~{0.333}~=~{33.3\percent}~{o~gynnydd}\)

Canfod lleihad canrannol

Ar ddydd Llun, roedd 45 siocled mewn blwch. Erbyn dydd Gwener, dim ond 12 oedd ar ôl. Cyfrifa’r newid canrannol.

  1. Cyfrifa’r newid: 45 – 12 = 33
  2. Mynega’r newid fel canran o’r gwerth gwreiddiol: \(\frac {33} {45}~=~{0.7333333333}~=~{73.3\percent}~{o~leihad}(i~un~lle~degol)\)