Ffracsiynau a chanrannauEnghreifftiau pellach 2 [Canolradd ac Uwch]

Mae ffracsiynau a chanrannau’n cynrychioli rhan o rif cyfan. Gallwn eu defnyddio i gynyddu neu leihau gwerth yn ôl cyfran benodol.

Part ofMathemateg RhifeddRhif

Enghreifftiau pellach ar gyfer yr haenau canolradd ac uwch

Enghraifft 1

Prynodd Barry gar newydd sbon yn 2009. Roedd yn costio £16,000. Aeth ei werth 8% yn llai bob blwyddyn ac yn 2014 penderfynodd ei werthu. Faint oedd ei werth bryd hynny? Rho dy ateb i’r bunt agosaf.

Ateb

Mae dwy ffordd y gelli gyfrifo hyn. Un o’r rhain yw defnyddio pwerau, a gelli ganfod sut i wneud hyn yn y canllaw Newid canrannau. Dyma ddull arall, sy’n cymryd ychydig mwy o amser:

Fe weithiwn ni i’r geiniog agosaf a thalgrynnu ar y diwedd i’r bunt agosaf:

  • 8% yw’r lleihad, felly’r lluosydd yw 0.92 gan fod 100% − 8% = 92%
  • Gwerth 2010 = 0.92 × £16,000 = £14,720
  • Gwerth 2011 = 0.92 × £14,720 = £13,542.40
  • Gwerth 2012 = 0.92 × £13,542.40 = £12,459.008 = £12,459.01 (i’r geiniog agosaf)
  • Gwerth 2013 = 0.92 × £12,459.01 = £11,462.2892 = £11,462.29 (i’r geiniog agosaf)
  • Gwerth 2014 = 0.92 × £11,462.29 = £10,545.3068 = £10,545.31 (i’r geiniog agosaf) = £10,545 (i’r bunt agosaf)

Enghraifft 2

Mewn sêl, roedd pris pabell yn cael ei ostwng ¼ bob dydd nes iddi gael ei gwerthu. £140 oedd ei phris yn wreiddiol. Cafodd ei gwerthu ar ôl pedwar diwrnod. Am faint o arian y cafodd ei gwerthu? Rho dy ateb i’r geiniog agosaf.

Ateb

Mae’r gostyngiad yn ¼ bob dydd, felly fe gyfrifwn ni 1 – ¼ = ¾ o’r pris blaenorol bob tro.

  • Pris ar y cychwyn = £140
  • Pris diwrnod 1 = ¾ × £140 = £105
  • Pris diwrnod 2 = ¾ × £105 = £78.75
  • Pris diwrnod 3 = ¾ × £78.75 = £59.0625 = £59.06 (i’r geiniog agosaf)
  • Pris diwrnod 4 = ¾ × £59.06 = £44.295 = £44.30 (i’r geiniog agosaf)