Mae cymhareb yn dangos y berthynas rhwng dau werth. Gallan nhw fod mewn cyfrannedd union ac yn cynyddu wrth i'r llall gynyddu neu mewn cyfrannedd gwrthdro; mae un yn cynyddu wrth i'r llall leihau.
Part ofMathemateg RhifeddRhif
Dyma fanylion a welir mewn siop baent:
Cyfrifa faint mae’n ei gostio i brynu 1.5 litr o Machlud Llosg a 3.5 litr o Goleuadau Fiesta.
Ateb ar gyfer 1.5 litr o Machlud Llosg
Mae Machlud Llosg wedi ei wneud o 5 rhan coch a 7 rhan melyn = 12 rhan.
Rydyn ni eisiau 1.5 litr = 1,500 ml.
1,500 ÷ 12 = 125 ml am bob ‘rhan’ yn y gymhareb.
Felly rydyn ni eisiau:
Sy’n costio:
Felly’r cyfanswm ar gyfer y paent hwn yw £8.75 + £10.94 = £19.69.
Ateb ar gyfer 3.5 litr o Goleuadau Fiesta
Mae Goleuadau Fiesta wedi ei wneud o 2 ran melyn, 5 rhan coch a 7 rhan glas = 14 rhan.
Rydyn ni eisiau 3.5 litr = 3,500 ml.
3,500 ÷ 14 = 250 ml am bob ‘rhan’ yn y gymhareb.
Felly’r cyfanswm ar gyfer y paent hwn yw £6.25 + £17.50 + £26.25 = £50.00.