CymharebEnghreifftiau ar gyfer yr haenau canolradd ac uwch

Mae cymhareb yn dangos y berthynas rhwng dau werth. Gallan nhw fod mewn cyfrannedd union ac yn cynyddu wrth i'r llall gynyddu neu mewn cyfrannedd gwrthdro; mae un yn cynyddu wrth i'r llall leihau.

Part ofMathemateg RhifeddRhif

Enghreifftiau ar gyfer yr haenau canolradd ac uwch

Enghraifft 1

Mae’r ddau driongl hyn yn rhai cyflun. Cyfrifa hyd p a q i un lle degol.

Dau driongl: Mae un 4.8 cm x 6.5 cm x p, mae'r llall q x 16.5 cm x 14.5 cm

Ateb

Yn gyntaf, rhaid i ti ganfod y gymhareb trwy gymharu dwy o’r un ochrau yn y trionglau cyflun:

16.5 ÷ 6.6 = 2.5.

Wrth fynd o’r triongl bach i’r un mawr, mae hyn yn golygu bod rhaid i ni × â 2.5.

Ac wrth fynd o’r triongl mawr i’r un bach, rhaid i ni ÷ â 2.5.

Felly, mae:

q = 4.8 × 2.5 = 12.0 cm

p = 14.5 ÷ 2.5 = 5.8 cm