Diagramau VennYmarfer

Mae diagramau Venn yn adnodd defnyddiol ym myd ystadegau. Unwaith y byddi’n gyfarwydd â’r rhain, byddi’n gallu rhoi trefn ar bob math o grwpiau a setiau.

Part ofMathemateg RhifeddRhif

Ymarfer

Beth am i ni edrych ar ymarfer gwahanol i ddatrys problemau drwy ddefnyddio diagramau Venn? Cofia lunio’r diagram Venn ac ychwanegu gwybodaeth ato wrth i ti fynd yn dy flaen. Bydd hyn yn dy helpu i gadw gorolwg o’r hyn sy’n digwydd.

Question

Mae 150 o ddisgyblion ym Mlwyddyn 11 sy’n sefyll rhai, os nad pob un, o’r arholiadau canlynol: Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth.

  • Mae 15 disgybl yn sefyll Saesneg a Mathemateg ond nid Gwyddoniaeth
  • Mae 20 disgybl yn sefyll Gwyddoniaeth a Mathemateg ond nid Saesneg
  • Mae 18 disgybl yn sefyll Gwyddoniaeth a Saesneg ond nid Mathemateg
  • Mae 8 disgybl yn sefyll y tri arholiad
  • Mae cyfanswm o 65 yn sefyll yr arholiad Gwyddoniaeth
  • Mae cyfanswm o 55 yn sefyll yr arholiad Saesneg
  • Mae cyfanswm o 72 yn sefyll yr arholiad Mathemateg

Faint o ddisgyblion sydd ddim yn sefyll unrhyw arholiad?

Ateb

Cychwynna trwy lenwi cymaint o wybodaeth â phosib yn y diagram Venn:

Diagram Venn â 3 set â labeli Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth. Mae pob set yn cynnwys nifer y disgyblion sy'n cymryd pob arholiad. Mae'r 3 set yn gorgyffwrdd i ffurfio 3 is-set