Diagramau Venn â thair is-set
Mae’n bosib cael diagramau Venn gyda thair is-set.
Enghraifft
Gofynnwyd i grŵp o ddisgyblion pa chwaraeon byddan nhw’n chwarae yn yr ysgol.
Fe gawson nhw’r opsiynau canlynol: Pêl-droed, Hoci, Pêl-rwyd neu Dim.
Dyma restr o’r chwaraeon roedden nhw’n eu chwarae:
| Chwaraeon | Enw |
| Pêl-droed | Thomas, Sean, Chris, Sarah, Freya, Sophie |
| Hoci | Noah, Thomas, Chris, Sophie, Jayne |
| Pêl-rwyd | Carrie, Sophie, Jayne a Alex, Freya |
| Dim | Melanie |
| Chwaraeon | Pêl-droed |
|---|---|
| Enw | Thomas, Sean, Chris, Sarah, Freya, Sophie |
| Chwaraeon | Hoci |
|---|---|
| Enw | Noah, Thomas, Chris, Sophie, Jayne |
| Chwaraeon | Pêl-rwyd |
|---|---|
| Enw | Carrie, Sophie, Jayne a Alex, Freya |
| Chwaraeon | Dim |
|---|---|
| Enw | Melanie |
Llunia ddiagram Venn i ddangos yr wybodaeth.
Datrysiad
Mae’r diagram hwn yn dangos i ni’n eglur pwy sy’n chwarae pa chwaraeon, ac mae hefyd yn cynnwys y disgyblion nad ydyn nhw’n chwarae unrhyw chwaraeon o gwbl, drwy osod eu henwau y tu allan i’r cylchoedd.
Set gynhwysol
Mae’r set gynhwysol yn cynnwys yr holl elfennau y mae gennyn ni ddiddordeb ynddyn nhw ar hyn o bryd.
\(ε\) = {sean, sarah, freya, chris, thomas, sophie, noah, jayne, carri, alex a melanie}
Question
Mae Carys a Maia yn mynd ar eu gwyliau.
Mae gan Carys yr eitemau canlynol i fynd gyda hi: Sychwr gwallt, sythwr gwallt, haearn smwddio bach, addasydd plwg
Gall Maia fynd â’r eitemau canlynol: Sychwr gwallt, gefeiliau cyrlio, plwg mosgito
Mae gan y ddwy ffonau symudol, ac maen nhw’n mynd i’w defnyddio i wrando ar gerddoriaeth. Mae Maia yn mynd â gorsaf ddocio ar gyfer ei ffôn a gall Carys ei ddefnyddio hefyd.
Mae cylchgrawn Just In yn rhestru’r eitemau trydanol y dylai pawb eu cael ar eu gwyliau. Dyma nhw:
- Gwefrydd ffôn symudol
- Clustffonau
- Camera
- Gwefrydd camera
- Addasydd plwg
- Plwg mosgito
- Haearn smwddio bach
- Sychwr gwallt
- Gefeiliau cyrlio
- Chwaraewr cerddoriaeth digidol
Cwblha’r diagram Venn i sicrhau eu bod wedi pacio’r holl bethau hanfodol ar restr Just In.
Na, nid ydyn nhw wedi pacio’r holl bethau hanfodol ar restr Just In gan nad oes ganddyn nhw gamera, gwefrydd ffôn symudol na gwefrydd camera.