Diagramau VennDatrys problemau gan ddefnyddio diagramau Venn

Mae diagramau Venn yn adnodd defnyddiol ym myd ystadegau. Unwaith y byddi’n gyfarwydd â’r rhain, byddi’n gallu rhoi trefn ar bob math o grwpiau a setiau.

Part ofMathemateg RhifeddRhif

Datrys problemau gan ddefnyddio diagramau Venn

Efallai y bydd gofyn i ti ddatrys problemau gan ddefnyddio diagramau Venn yn dy arholiad. Mae’n bwysig iawn dy fod yn llunio’r diagram Venn ac yn ychwanegu gwybodaeth ato wrth i ti fynd yn dy flaen. Bydd hyn yn dy helpu i gadw gorolwg o’r hyn sy’n digwydd.

Enghraifft

  • Cwblhawyd holiadur gan 100 o bobl a wnaeth ymweld â Gŵyl
  • Roedd pob un o’r 100 o ymwelwyr wedi gweld o leiaf un o’r bandiau canlynol – Band X, Band Y a Band Z
  • Roedd 14 o’r ymwelwyr wedi gweld Band X a Band Y ac, o’r rhain, roedd 3 wedi gweld y bandiau i gyd
  • Roedd 36 person wedi gweld Band X
  • Roedd 55 person wedi gweld Band Y
  • Roedd 53 person wedi gweld Band Z
  • Rhoddir mwy o wybodaeth yn y diagram Venn isod
Diagram Venn â 3 set â labeli Band X, Band Y, a Band Z. Mae'r 3 set yn gorgyffwrdd i ffurfio 3 is-set

Faint o ymwelwyr a oedd wedi gweld Band X ond nid Band Y na Band Z?

Ateb

14 – 3 = 11

Mae 11 o ymwelwyr wedi gweld Band X a Band Y yn unig. Gallwn nawr lenwi hwn ar ein diagram.

Os edrychwn ni nawr ar gylch Band Y, mae gennyn ni’r holl rannau ar wahân i un.

Diagram Venn â 3 set â labeli Band X, Band Y, a Band Z. Mae pob set yn cynnwys nifer y bobl sydd wedi bod ym mhob band. Mae'r 3 set yn gorgyffwrdd i ffurfio 3 is-set

Nawr adia’r rhifau sydd gennyn ni hyd yma yng nghylch Band Y:

20 + 11 + 3 = 34.

Fe weli fod gennyn ni 34 person hyd yma, ond rydyn ni’n gwybod bod 55 person wedi gweld Band Y:

55 – 34 = 21.

Mae 21 person ar ôl ac mae’r rheini’n mynd yn y rhan wag. Felly, mae 21 person wedi gweld Band Y a Band Z.

Diagram Venn â 3 set â labeli Band X, Band Y, a Band Z. Mae pob set yn cynnwys nifer y bobl sydd wedi bod ym mhob band. Mae'r 3 set yn gorgyffwrdd i ffurfio 3 is-set

Os edrychwn ni nawr ar gylch Band Z, mae gennyn ni’r holl rannau ar wahân i un. Os adiwn ni’r holl rifau sydd gennyn ni hyd yma yng nghylch Band Z, cawn:

23 + 21 + 3 = 47

Fe weli fod gennyn ni 47 person hyd yma, ond rydyn ni’n gwybod bod 53 person wedi gweld Band Z:

53 – 47 = 6

Felly mae 6 person ar ôl i fynd yn y rhan sydd wedi ei gadael yn wag. Mae 6 person wedi gweld Band Z a Band X, gallwn nawr lenwi hwn ar ein diagram Venn.

Diagram Venn â 3 set â labeli Band X, Band Y, a Band Z. Mae pob set yn cynnwys nifer y bobl sydd wedi bod ym mhob band. Mae'r 3 set yn gorgyffwrdd i ffurfio 3 is-set

Os edrychwn ni nawr ar gylch Band X, mae gennyn ni bob un o’r rhannau ar wahân i un. Beth am i ni adio’r rhifau sydd gennyn ni hyd yma yn y cylch hwn:

11 + 6 + 3 = 20

Fe weli fod gennyn ni 20 person hyd yma, ond rydyn ni’n gwybod bod 36 person wedi gweld Band X:

36 – 20 =16

Felly mae 16 dros ben i fynd yn y rhan sydd wedi ei gadael yn wag. Gallwn nawr lenwi hwn ar ein diagram Venn.

Diagram Venn â 3 set â labeli Band X, Band Y, a Band Z. Mae pob set yn cynnwys nifer y bobl sydd wedi bod ym mhob band. Mae'r 3 set yn gorgyffwrdd i ffurfio 3 is-set

Roedd 16 ymwelydd wedi gweld Band X, ond nid Band Y na Band Z.