Cynllunio a threfnuDulliau samplu

Mae’r broses ymchwil yn bwysig. Mae’n ymwneud â ffurfio cwestiynau ymchwil addas, casglu data cynradd ac eilaidd priodol a dadansoddi gwybodaeth ar gyfer adroddiad ysgrifenedig.

Part ofCenedlaethol: Sylfaen CA4Project unigol

Dulliau samplu

Mae angen i ymchwilwyr gasglu digon o ymchwil cynradd i gael syniad clir ynglŷn â barn a safbwyntiau’r bobl sy’n berthnasol i’w hymchwil. Yn aml iawn rydym yn cyfeirio at y bobl sy’n berthnasol i’r ymchwil fel poblogaeth.

Enghraifft

Pe bai dy ysgol yn ystyried newid ei horiau agor, byddai’r boblogaeth yn cynnwys:

  • plant
  • rhieni
  • athrawon
  • llywodraethwyr
  • staff
  • unrhyw perthnasol

Pe bai dy ysgol yn fach iawn, byddai’r ymchwilydd yn gallu gofyn i bawb beth yw ei farn. Ond os yw dy ysgol yn fawr iawn, bydd yn anodd gofyn i bawb beth yw ei farn, felly mae’n bosibl bydd yr ymchwilydd yn penderfynu gofyn i sampl yn unig o’r boblogaeth.

Er bod y sampl yn nifer bach, byddai’r bobl fyddai’n cael eu holi yn dal yn o’r boblogaeth gyfan.

Mae cynrychioliadol yn golygu bod gan y sampl nodweddion tebyg i’r boblogaeth gyfan. Felly os yw 51% o’r boblogaeth gyfan yn ferched, dylai 51% o’r sampl llai fod yn ferched hefyd.

Cylch mawr wedi ei lenwi â ffigurau wedi eu labelu fel Poblogaeth. Mae saeth yn arwain o'r cylch i gylch llai. Mae'r cylch hwn yn cynnwys llai o ffigurau ac mae wedi ei labelu fel Sampl.

Mae’r broses samplu yn cynnwys tri cham:

1: Pwy?. 2: Faint?. 3: Sut?
  1. Pwy rwyt ti eisiau eu samplu?
  2. Faint o bobl sy’n mynd i gael eu samplu?
  3. Sut mae pobl yn mynd i gael eu samplu? (hynny yw, pa ddull ddylet ti ei ddewis?)

Mae hyn yn golygu bod y sampl yn adlewyrchu nodweddion y boblogaeth lai yn unig. Gan fod sampl bob amser yn llai na’r boblogaeth gyfan, mae gan sampl fanteision oherwydd:

  • mae’n lleihau costau
  • mae’n arbed amser
  • nid oes angen cymaint o adnoddau

Mathau o samplau

Samplu cyfleus

Mae hyn yn ymwneud â chasglu gwybodaeth gan bwy bynnag sydd ar gael pan mae’r ymchwil yn cael ei gynnal. Er enghraifft, pe baet ti’n ymchwilio i’r cyfleusterau arlwyo yn dy ysgol, byddet yn cael sampl cyfleus drwy gerdded o amgylch yr ysgol a gofyn i bwy bynnag rwyt ti’n ei gyfarfod lenwi dy holiadur.

Hapsamplu

Mae hwn yn sampl lle mae gan bob person yr un cyfle i gael ei ddewis. Mae’n bosibl ei wneud drwy dynnu enwau o het neu drwy ddefnyddio cyfrifiadur i gynhyrchu rhifau. Er enghraifft, pe baet ti’n ymchwilio i’r cyfleusterau arlwyo yn dy ysgol, byddai hapsampl yn golygu byddai gan bawb yn yr ysgol yr un siawns o gael ei ddewis.

Hapsamplu haenedig

Mae hyn yn golygu rhannu’r boblogaeth yn segmentau, yna cymryd hapsampl o bob segment. Er enghraifft, pe baet yn ymchwilio i’r cyfleusterau arlwyo yn dy ysgol, byddai sampl haenedig yn golygu dy fod yn rhannu’r ysgol yn wahanol grwpiau. Gallai hyn gynnwys merched 10-12 oed ac 13-16 oed, a bechgyn 10-12 oed ac 13-16 oed. Yna byddet yn cymryd hapsampl o bob grŵp er mwyn llenwi dy holiadur.

Samplu seiliedig ar farn

Mae hyn yn golygu bod y samplau’n cael eu dewis gan ymchwilwyr oherwydd eu bod yn teimlo eu bod yn rhoi iddynt yr wybodaeth maent ei hangen. Er enghraifft, pe baet yn ymchwilio i’r cyfleusterau arlwyo yn dy ysgol, gallai sampl seiliedig ar farn olygu dy fod yn penderfynu pwy sy’n defnyddio’r cantîn fwyaf ac yna’n gofyn iddyn nhw lenwi dy holiadur.

Mae’n bwysig bod y dull samplu sy’n cael ei ddewis yn cynhyrchu gwybodaeth sy’n gynrychioliadol o’r boblogaeth. Mae ymchwilwyr yn cyfeirio at hyn fel y gallu i gyffredinoli canfyddiadau.

Mae’r gallu i gyffredinoli yn cyfeirio at y graddau gallwn ni gymhwyso canfyddiadau ein hymchwil i’r boblogaeth darged mae gennym ddiddordeb ynddi.

Question

Rwyt ti’n ymchwilio i farn pobl ynglŷn â pha ffactorau sy’n achosi gordewdra yng Nghymru, ac rwyt ti’n gofyn i bawb sydd yn dy ddosbarth ateb dy holiadur.

  • Pwy yw’r boblogaeth?
  • Pwy yw’r sampl?
  • A fydd y gallu i gyffredinoli dy ganfyddiadau yn uchel, yn ganolig neu’n isel?
  • Pa fath o sampl rwyt ti wedi ei ddefnyddio?