Ymchwil cynradd
Mae ymchwil cynradd yn golygu gwybodaeth sy’n cael ei chasglu gan yr ymchwilydd. Mae’r data sy’n cael eu casglu mewn ymchwil cynradd yn cael eu casglu am y tro cyntaf ac maent yn benodol i amcan neu bwrpas yr ymchwilydd.
Manteision ymchwil cynradd
- Mae’r wybodaeth yn gyfredol.
- Mae’r data yn unigryw – ni fydd neb arall yn gallu cael mynediad atynt.
- Mae’n bosibl cael ymchwil cynradd yn gyflym, drwy ddefnyddio dulliau penodol, ee pôl piniwn Gweithgaredd lle mae rhywun yn gofyn yr un cwestiynau i lawer o bobl er mwyn canfod beth yw barn y rhan fwyaf o bobl am rywbeth. Mae’r rhain yn boblogaidd adeg etholiad pan fydd ymchwilwyr yn gofyn i bobl dros bwy maen nhw’n bwriadu pleidleisio..
Anfanteision ymchwil cynradd
- Gall ymchwil cynradd fod yn anodd i’w gasglu, neu gall gymryd llawer o amser i’w gasglu, gan ddibynnu ar y dull sy’n cael ei ddewis.
- Gall casglu ymchwil cynradd fod yn gostus.
- Gall roi canlyniadau camarweiniol neu anghywir, ee os nad yw’r sampl yn ddigon mawr, os nad yw’r ymchwil yn cynrychioliadolDylai nodweddion y sampl fod yn debyg i nodweddion y boblogaeth., neu os nad yw’r holiaduron wedi eu geirio’n ddigon clir.
Dulliau ymchwil cynradd
Wrth wneud ymchwil cynradd, mae’n bwysig iawn dewis y dull priodol.
Mae angen ystyried y cwestiwn ymchwil, y gyllideb, amser a’r math o wybodaeth sydd ei hangen yn ofalus. Yna mae’n bosibl dewis y dulliau priodol.
Mae llawer o wahanol ddulliau gall ymchwilydd eu defnyddio i gasglu gwybodaeth gynradd. Mae’r rhain yn cynnwys:
- arsylwi
- holiaduron
- cyfweliadau
- grwpiau ffocws