Dadansoddi data ansoddol
Os wyt ti wedi casglu data ansoddol, bydd gen ti wybodaeth sy’n ymwneud â disgrifiadau ac esboniadau. Weithiau mae’n bosibl troi data ansoddol yn rhifau drwy gyfri sawl gwaith mae rhywbeth yn digwydd mewn cyfweliad neu arsylwad.
Mae dadansoddiad ansoddol yn golygu ceisio deall y cyfan drwy ddefnyddio’r data i ddisgrifio’r ffenomenon a beth mae hyn yn ei olygu.
Mae dadansoddiadau meintiol ac ansoddol yn defnyddio labelu a codioProses o roi categori i ffenomenon., er mwyn gweld beth sy’n debyg a beth sy’n wahanol.
Mae’n bosibl codio ymateb o gyfweliad anstrwythuredig, lle mae’n bosibl cyfri sawl gwaith mae gair yn cael ei grybwyll. Fodd bynnag, gan na fydd ymchwilydd yn gallu rhagweld beth mae’r cyfranogwr yn mynd i’w ddweud mewn cyfweliad, nid yw’n bosibl penderfynu ynglŷn â’r dull o godio neu labelu nes bydd y cyfweliad wedi cael ei gynnal. Mae hyn yn cael ei alw yn ddadansoddiad cynnwys.
Enghraifft
Byddai modd defnyddio dadansoddiad cynnwys i ymdrin â phapur newydd. Gallai’r ymchwilydd benderfynu ar y categorïau a ganlyn, a mynd ati wedyn i gyfri sawl gwaith mae’r erthyglau ac ati yn digwydd:
- nifer yr erthyglau am enwogion
- nifer yr hysbysebion
- nifer y storïau newyddion gwleidyddol
- nifer yr erthyglau am yr economi
- nifer yr erthyglau newyddion caled
- nifer yr erthyglau newyddion meddal
