Cynnal ymchwil - methodoleg
Mae methodoleg yn golygu’r math o ddull gweithredu byddi di’n ei ddefnyddio i wneud dy ymchwil. Mae’n cyfeirio at y gweithdrefnau sy’n helpu ymchwilwyr i benderfynu sut i ddod o hyd i’r wybodaeth maen nhw ei hangen.
Mae gwahanol bynciau, sydd hefyd yn cael eu galw yn ddisgyblaethau, yn dilyn gwahanol setiau o weithdrefnau. Mae’r gweithdrefnau hyn yn helpu ymchwilwyr i benderfynu sut bydd y data yn cael eu casglu.
Dull arbrofol

Yn aml iawn bydd ymchwilwyr mewn disgyblaeth wyddonol yn dewis dull arbrofol. Mae hyn yn golygu bod ymchwilydd yn profi rhagdybiaeth Ateb y mae’n bosibl ei brofi i gwestiwn gwyddonol., sef ateb posibl i’r cwestiwn ymchwil.
Er enghraifft, os yw’r cwestiwn ymchwil yn gofyn ‘A yw cymryd fitaminau yn effeithio ar ba mor hir byddwch byw?', efallai mai’r rhagdybiaeth fyddai ‘Bydd cymryd fitaminau yn gwneud i chi fyw’n hirach’.
Bydd yr ymchwilydd yn profi’r rhagdybiaeth hon drwy reoli’r newidyn annibynnol Gwrthrych, syniad, digwyddiad, teimlad, neu gyfnod o amser nad yw’n cael ei newid gan unrhyw newidynnau eraill. Mae oedran yn newidyn annibynnol., sef 'fitaminau'. Bydd yr ymchwilydd yn rheoli nifer y fitaminau er mwyn gweld yr effaith ar y newidyn dibynnolGwrthrych, syniad, digwyddiad, teimlad neu gyfnod o amser sy’n dibynnu ar newidynnau eraill ac sy’n gallu cael ei newid gan newidynnau eraill. Mae sgôr prawf yn newidyn dibynnol., sef disgwyliad oes.
Bydd yr ymchwilydd yn dewis cyfranogwr Person sy’n cymryd rhan mewn ymchwil. i gymryd rhan yn yr arbrawf ac yn eu rhannu’n ddau grŵp:
- grŵp arbrofol
- grŵp rheolydd
Bydd aelodau'r grŵp arbrofol yn derbyn y fitaminau, tra bydd aelodau'r grŵp rheolydd yn derbyn yr hyn maen nhw’n credu sy’n fitaminau. Fodd bynnag, bydd y grŵp rheolydd mewn gwirionedd yn derbyn plasebo Rhywbeth sy’n edrych fel rhywbeth arall, ond sy’n cael dim effaith, ee efallai y bydd tabledi fitaminau plasebo yn edrych fel tabledi fitaminau er mai dim ond siwgr sydd ynddyn nhw mewn gwirionedd.. Ar ddiwedd yr arbrawf, bydd yr ymchwilydd yn cymharu’r canlyniadau yn y grŵp rheolydd â’r canlyniadau yn y grŵp arbrofol er mwyn chwilio am wahaniaethau.
Dull ethnograffig
Mae ymchwilydd ethnograffig yn gweithio ym maes gwyddorau cymdeithasol a bydd yn astudio pobl a’u diwylliannau. Bydd yr ymchwilydd yn dewis y dulliau sy’n gweddu orau i’r hyn mae’n ceisio ei ddarganfod, ee efallai bydd yn dewis defnyddio cyfweliadau, er mwyn casglu disgrifiadau a manylion. Dull poblogaidd arall sy’n cael ei ddefnyddio gan ymchwilwyr ethnograffig yw arsylwi. Drwy ddefnyddio’r dull hwn, gallant arsylwi pobl yn perfformio defodau ac arferion.
Bydd cyfweliadau ac arsylwadau sy’n archwilio gwahanol ddefodau ac arferion yn helpu ymchwilwyr i ddeall pam mae’r arferion hyn yn digwydd, sef nod ethnograffeg. Does gan ymchwilydd ethnograffig ddim diddordeb mewn defnyddio dull gwyddonol, felly ni fyddai’n defnyddio’r dull arbrofol, er enghraifft, gan nad yw eisiau profi dim.
Enghraifft bywyd go iawn
Roedd Margaret Mead yn ymchwilydd ethnograffig adnabyddus. Gwnaeth lawer iawn o ymchwil drwy gydol ei hoes. Yn y 1930au arsylwodd blant yn tyfu yn Guinea Newydd ac ysgrifennodd Growing Up in New Guinea (1930), a ailgyhoeddwyd yn 2001. Roedd ei llyfr yn disgrifio’r bobl gwnaeth hi eu cyfarfod, a’r ffordd roedden nhw’n byw.
