Arsylwi
Mae angen cynllunio'n dda ar gyfer sesiwn arsylwi. Rhaid meddwl yn ofalus am y gwahanol gategorïau fydd yn cael eu hasesu, yna cofnodi pa mor aml mae’r categorïau hyn yn digwydd.
Enghraifft
Mae ymchwilydd eisiau arsylwi y mathau o gwsmeriaid sy’n mynd i’r sinema ar fore Sadwrn. Yn gyntaf, mae angen i’r ymchwilydd benderfynu sut i gategoreiddio’r mathau o gwsmeriaid yn grwpiau cyn y dyddiad arsylwi. Gallai’r categorïau hyn fod yn:
- plant
- pobl ifanc
- cyplau
- pensiynwyr
- teuluoedd
- eraill
Yna, bydd yr ymchwilydd yn paratoi taflen arsylwi ac yn cadw siart cyfriFfordd o gyfri. Gwneud pedair llinell fertigol, a thynnu’r pumed llinell yn groeslinol ar draws y rhai fertigol. Mae pob set yn hafal i bump, felly mae’n hawdd iawn cyfri’r cyfanswm. o bob categori yn ystod y cyfnod arsylwi. Bydd yr ymchwilydd yn eistedd yn y sinema ac yn cyfri’r cwsmeriaid fel maen nhw’n dod i mewn. Neu, gallai ymchwilydd osod camera fideo sy’n recordio’r cwsmeriaid sy’n dod i mewn i’r sinema, a chyfri’r categorïau yn nes ymlaen.
Manteision defnyddio arsylwadau
- Mae’n bosibl casglu data ble bynnag a phryd bynnag mae’r digwyddiad neu’r gweithgaredd yn cael ei gynnal.
- Nid yw arsylwadau yn dibynnu ar barodrwydd pobl i ddarparu gwybodaeth.
Anfanteision defnyddio arsylwadau
- Weithiau mae pobl yn perfformio’n wahanol os ydyn nhw’n gwybod eu bod yn cael eu harsylwi.
- Nid yw arsylwadau yn helpu ymchwilwyr i ddeall pam mae pobl yn ymddwyn mewn ffordd benodol.
Holiaduron
Mae holiaduron yn ffordd boblogaidd o gasglu barn a gwybodaeth am brofiadau. Mae’n bosibl eu cynnal mewn llawer o wahanol ffyrdd, sef:
- eu hanfon drwy’r post a gofyn i’r derbynwyr gwblhau’r holiaduron a’u dychwelyd – fel arfer drwy gynnwys amlen barod
- eu cynnal dros y ffôn neu wyneb yn wyneb
- eu cynnal ar-lein drwy safleoedd allanol fel Survey Monkey, Survey Planet neu Kwik Surveys
Manteision defnyddio holiaduron
- Mae pobl yn ymateb yn well i holiaduron wyneb yn wyneb fel arfer.
- Mae holiaduron post ac ar-lein yn golygu bod ymchwilydd yn gallu canfod barn nifer fawr o bobl.
- Mae llawer o bobl yn gyfarwydd â llenwi holiaduron.
Anfanteision defnyddio holiaduron
- Does dim sicrwydd bydd pobl yn ymateb i holiaduron post ac ar-lein o gwbl, ond hyd yn oed os ydyn nhw'n ymateb efallai na fydd yr atebion cystal, oherwydd nad oes ymchwilydd ar gael i ateb unrhyw bryderon neu gwestiynau.
- Mae holiaduron wyneb yn wyneb yn cymryd amser.
- Mae’n anodd ysgrifennu cwestiynau arolwg da a chlir.
Cyfweliadau
Mae cyfweliadau yn ddefnyddiol iawn er mwyn deall y stori tu ôl i brofiadau cyfranogwr. Gall y cyfwelydd gael gwybodaeth fanwl am y pwnc.
Weithiau mae cyfweliadau’n ddefnyddiol ar ôl defnyddio holiaduron neu arsylwadau, oherwydd mae’n bosibl eu defnyddio i ymchwilio ymhellach i atebion y rhai sy’n cael eu cyfweld.
Mae o leiaf dri gwahanol fath o gyfweliad.
Cyfweliadau anstrwythuredig
Does dim cwestiynau penodol i’w gofyn mewn cyfweliadau anstrwythuredig, ond mae'n bosibl bydd gan yr ymchwilydd rai syniadau ynglŷn â’r pynciau byddai’n hoffi eu trafod. Fel arfer, bydd y cyfwelydd yn gofyn cwestiynau ar sail yr hyn mae’r unigolyn sy’n cael ei gyfweld yn ei ddweud, felly mae’n anodd paratoi ar gyfer cyfweliad anstrwythuredig.
Cyfweliadau lled-strwythuredig
Mewn cyfweliadau lled-strwythuredig bydd yr ymchwilydd yn gofyn yr un cwestiwn agoredMae cwestiwn agored yn gwestiwn nad yw’n cyfyngu ar yr atebion posibl, ee oes neu nac oes. Fel arfer, mae’n seiliedig ar ddisgrifiadau, barn a theimladau nad yw’n bosibl eu cofnodi’n syml drwy roi tic mewn blwch. Mae cwestiynau agored yn tueddu i fod ag atebion hir. i bawb sy’n cael ei gyfweld. Mae hyn yn golygu cyfweliadau cyflymach sy’n haws eu dadansoddi a’u cymharu. Er hyn, gall ymchwilwyr ofyn cwestiynau eraill os ydyn nhw'n dymuno, neu gall ofyn i’r sawl sy’n cael ei gyfweld ehangu ar rywbeth sydd wedi cael ei drafod.
Mae cwestiynau agored yn darparu gwybodaeth fanwl am ymddygiad dynol. Mae cwestiynau o’r fath fel arfer yn dechrau â sut, beth, pryd, ble a pham. Pwrpas cwestiwn agored yw deall rhywbeth yn well drwy gael rhagor o wybodaeth gan y sawl sy’n cael ei gyfweld, ee
- Sut fyddwch chi’n treulio eich penwythnosau fel arfer?
- Beth ydych chi’n ei feddwl o’r diwydiant bwyd cyflym?
- Pryd oedd y tro diwethaf i chi roi rhywbeth i elusen?
- I ble dylai Llywodraeth Cymru gyfeirio ei chefnogaeth ariannol?
- Pam rydych chi’n meddwl bod y ganran sy’n pleidleisio yn isel?
Cyfweliadau strwythuredig
Cyfweliadau ag ymateb penodol yw’r rhain. Mae’r ymchwilydd yn gofyn yr un cwestiynau i bawb sy’n cael ei gyfweld, ac mae angen dewis atebion o’r un set o atebion. Mae hyn yn golygu bod modd cynnal cyfweliadau yn llawer cyflymach. Mae’n bosibl cymharu’r cyfweliad yn uniongyrchol â chyfweliadau eraill, ac mae’n hawdd dadansoddi’r ymatebion.
Manteision defnyddio cyfweliadau
- Mae'n ddefnyddiol er mwyn cael gwell dealltwriaeth o bwnc.
- Mae'n galluogi cyfranogwr Person sy’n cymryd rhan mewn ymchwil. i ddisgrifio beth sy’n bwysig iddyn nhw.
Anfanteision defnyddio cyfweliadau
- Mae’n bosibl dangos tuedd mewn cyfweliad Sefyllfa lle mae’r cyfwelydd yn dylanwadu ar ymatebion cyfranogwyr drwy ddefnyddio mathau penodol o gwestiynau neu drwy ddweud rhywbeth mewn ffordd benodol..
- Mae'n cymryd llawer o amser ac yn gostus o gymharu â dulliau eraill.
Grwpiau ffocws
Mae grŵp ffocws fel arfer yn cynnwys nifer fach o gyfranogwyr. Fel arfer mae tua 6 i 12 aelod (er gallai’r nifer fod yn llai) a bydd yr ymchwilydd yn gofyn cwestiynau agored er mwyn iddyn nhw gyfleu eu meddyliau neu eu teimladau.
Manteision defnyddio grwpiau ffocws
- Mae'n taflu goleuni ar y ffordd mae pobl yn meddwl, ac yn darparu dealltwriaeth ddyfnach o’r ffenomenau sy’n cael eu hastudio.
- Mae'n darparu’r gallu i gasglu gwybodaeth ddyfnach mewn ffordd fwy economaidd na chyfweliadau unigol.
- Mae'r ymchwilydd yn gallu sylwi ar gyfathrebu di-eiriau hefyd.
Anfanteision defnyddio grwpiau ffocws
- Gall ychydig o unigolion reoli’r drafodaeth neu achosi iddi grwydro oddi wrth y pwnc.
- Gall y gwaith o ddadansoddi data gymryd llawer o amser.
- Mae’n bosibl na fydd y wybodaeth sy’n cael ei chasglu yn cynrychioliadolDylai nodweddion y sampl fod yn debyg i nodweddion y boblogaeth. o’r boblogaeth gan fod cyn lleied o gyfranogwyr.