Cynllunio a threfnuY broblem ymchwil

Mae’r broses ymchwil yn bwysig. Mae’n ymwneud â ffurfio cwestiynau ymchwil addas, casglu data cynradd ac eilaidd priodol a dadansoddi gwybodaeth ar gyfer adroddiad ysgrifenedig.

Part ofCenedlaethol: Sylfaen CA4Project unigol

Y broblem ymchwil

Y cam cyntaf yw penderfynu beth rwyt ti eisiau ymchwilio iddo. Gallet ti ddewis rhywbeth sydd o ddiddordeb i ti’n bersonol, neu ymchwilio i broblem fwy cyffredinol.

Dull twmffat

Mae’r dull twmffat yn ffordd dda o feddwl am syniad ymchwil.

  1. Dechreua â phwnc cyffredinol sydd o ddiddordeb i ti. Yna, darllena am y maes hwn a’i drafod gyda phobl eraill, er enghraifft dy athro/athrawes neu aelodau eraill y dosbarth.
  2. Yna, myfyria ar y pwnc. Mae hyn yn golygu cymryd cam yn ôl i feddwl am dy syniad cychwynnol. Gall hyn olygu ateb y cwestiynau a ganlyn - Beth rydyn ni’n ei wybod yn barod am y pwnc? Beth nad ydyn ni’n ei wybod yn barod am y pwnc? Beth sydd o ddiddordeb penodol i’r ymchwilydd? Bydd y cwestiynau hyn yn dy helpu i lunio fersiwn drafft cyntaf dy gwestiwn ymchwil.
  3. Ar ôl rhagor o waith darllen, trafod neu fyfyrio, efallai byddi di’n penderfynu mireinio’r cwestiwn ymhellach drwy addasu neu newid y syniad cychwynnol.
  4. Mae cwestiynau ymchwil fel arfer yn cael eu mireinio’n rheolaidd drwy gydol y broses ymchwil nes penderfynu ar y cwestiwn ymchwil terfynol.
Twmffat â haenau lliw wedi eu labelu fel A: Penderfynu ar bwnc cyffredinol o ddiddordeb. B: Darllen, trafod, gwella, newid. C: Rhagor o ddarllen, trafod, gwella, newid. Ch: Cynhyrchu cwestiwn ymchwil.

Y broses fireinio

Dyma enghraifft o’r broses fireinio, sy’n dangos sut mae’r syniad cychwynnol yn cael ei addasu a’i newid cyn cynhyrchu’r cwestiwn ymchwil terfynol.

Drafft cyntaf - Beth yw effeithiau cynhesu byd-eang ar anifeiliaid?

Sylwadau - Cwestiwn diddorol, ond does ganddo ddim canolbwynt clir, ee beth yn union mae’r gair 'effeithiau’ yn ei olygu? Gallai effeithiau gyfeirio at boblogaeth, cynefinoedd, neu ffordd o fyw anifeiliaid, felly ar hyn o bryd mae canolbwynt y cwestiwn yn rhy eang. Mae angen canolbwyntio ar yr effaith benodol.

Ail ddrafft - Sut mae cynhesu byd-eang yn effeithio ar gyfraddau poblogaeth anifeiliaid?

Sylwadau - Mae y cwestiwn wedi cael ei benderfynu, ond yr hyn sy’n dal ar goll yw pa fath o anifeiliaid mae angen eu hastudio.

Trydydd drafft - Sut mae cynhesu byd-eang yn effeithio ar boblogaeth eirth gwynion?

Sylwadau - Mae’r cwestiwn erbyn hyn yn canolbwyntio mwy ar y math o anifail, ond mae eirth gwynion yn byw yng Nghanada, Rwsia, Unol Daleithiau America, yr Ynys Las a Norwy, felly mae'r cwestiwn dal rhy eang. Beth am ganolbwyntio ar boblogaeth eirth gwynion mewn un wlad yn unig?

Drafft terfynol - Sut mae cynhesu byd-eang yn effeithio ar boblogaeth eirth gwynion yng Nghanada?

Sylwadau - Drwy ddewis gwlad benodol, mae gan y cwestiwn hwn bellach ganolbwynt ac mae’n hawdd ei ddeall. Mae hyn yn golygu bydd y broses o benderfynu sut i wneud yr ymchwil yn llawer cliriach.

Ar ôl nodi’r cwestiwn ymchwil, bydd yr ymchwilydd yn datblygu nodau ac amcanion. Bydd y nodau a’r amcanion yn galluogi’r ymchwilydd i ateb y cwestiwn ymchwil.