Dadansoddi, dehongli ac adroddiadau ymchwil
Ar ôl casglu gwybodaeth, rhaid i ymchwilwyr wneud synnwyr o ganfyddiadau eu hymchwil. Bydd eu dadansoddiad yn dibynnu ar y math o ddata maen nhw wedi eu casglu – gwybodaeth meintiol Mae ymchwil meintiol yn egluro ffenomena drwy gasglu data rhifiadol. Mae’r data hyn yn cael eu dadansoddi wedyn gan ddefnyddio dulliau mathemategol. neu ansoddolMae ymchwil ansoddol yn ceisio ateb cwestiynau ynglŷn â pham a sut y mae pobl yn ymddwyn mewn ffordd benodol. Mae’n darparu gwybodaeth fanwl am ymddygiad dyn..
Ar ôl dadansoddi’r wybodaeth, bydd yr ymchwilydd yn ailedrych ar y nodau a’r amcanion ac yn rhoi sylw uniongyrchol i’w gwestiwn ymchwil gwreiddiol.
Fformat project ymchwil
Fel arfer, mae projectau ymchwil ysgrifenedig yn dilyn fformatau tebyg iawn.
Teitl
Gwna’n siŵr fod gan dy deitl ganolbwynt clir a’i fod yn cynnig digon o cwmpasMaint y maes neu’r pwnc sy’n berthnasol. ar gyfer ymchwil cynradd ac eilaidd.
Agoriad
Dylai’r gosodiad agoriadol osod cyd-destun y gwaith ac egluro beth yw ei bwrpas. Dylai gynnwys eglurhad personol o’r rheswm dros ddewis y teitl. Gallai hwn fod yn faes o ddiddordeb, yn bwnc sy’n gysylltiedig ag astudiaeth yn y dyfodol neu gysylltiad â chymdeithas heddiw. Mae’r cyflwyniad yn drosolwg o’r pwnc ac unrhyw gasgliadau rwyt ti’n eu disgwyl.
Nodau ac amcanion
Mae nodau yn ddatganiadau cyffredinol sy’n disgrifio beth fydd yn cael ei archwilio er mwyn ateb neu gyflawni’r teitl.
Mae amcanion yn ddatganiadau penodol sy’n egluro sut bydd y nodau’n cael eu cyflawni. Dylai’r rhain fod yn ymarferol, yn fesuradwy, ac yn rhai mae’n bosibl eu cyflawni.
Dulliau ymchwil
Dylai’r adran hon ddisgrifio sut cafodd y data eu casglu.
Canlyniadau
Mae’r adran ganlyniadau ar gyfer arddangos y data sydd wedi cael eu casglu, ynghyd â dadansoddiad o’r canlyniadau. Yn aml iawn mae’r adran hon yn cynnwys tablau, graffiau a siartiau i ddangos crynodeb o’r canfyddiadau ynghyd ag esboniad.
Casgliad
Bydd y casgliad yn cynnwys datganiad o’r canfyddiadau, ynghyd ag esboniadau posibl a chasgliadau. Bydd hefyd yn cynnwys gwerthusiad o’r ymchwil rwyt ti wedi ei wneud ynghyd â’r fethodoleg. Gall yr adran hon hefyd gyfeirio at gyfleoedd ar gyfer ymchwil yn y dyfodol.
Llyfryddiaeth
Mae’r llyfryddiaeth yn cynnwys disgrifiad manwl o’r ffynonellau gwybodaeth rwyt ti wedi eu defnyddio. Bydd y cyfeiriadau mewn llyfryddiaeth yn cynnwys:
- enw’r awdur
- dyddiad cyhoeddi
- teitl
- man cyhoeddi
- enw’r cyhoeddwr
Dyma enghraifft sy’n dangos sut i osod llyfryddiaeth.
Parry, R.G. (2012). Cymru'r Gyfraith - Sylwadau ar Hunaniaeth Gyfreithiol. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, tud.37.
Mae llyfryddiaeth anodedig hefyd yn cynnwys disgrifiad byr o gynnwys y ffynhonnell, ei hansawdd a pha mor ddefnyddiol oedd hi.
Atodiad
Mae atodiad yn cynnwys unrhyw beth sydd wedi cael ei gyfeirio ato yn yr adroddiad, ond nad oes angen iddo fod ym mhrif gorff yr adroddiad. Gallai hyn fod oherwydd ei fod yn rhy hir neu oherwydd ei fod yn cynnwys gwybodaeth sydd ddim yn hanfodol i’r ymchwil, ond a allai fod o ddiddordeb i unrhywun sydd eisiau dysgu mwy.
Gallai atodiad nodweddiadol gynnwys templed glân neu wag o unrhyw holiadur rwyt ti wedi ei ddefnyddio (nid oes angen holiaduron sydd wedi eu cwblhau), trawsgrifiad o unrhyw gyfweliadau rwyt ti wedi eu cynnal neu daflen sy'n cofnodi'r arsylwadau.