Cynllunio a threfnuDadansoddi data meintiol

Mae’r broses ymchwil yn bwysig. Mae’n ymwneud â ffurfio cwestiynau ymchwil addas, casglu data cynradd ac eilaidd priodol a dadansoddi gwybodaeth ar gyfer adroddiad ysgrifenedig.

Part ofCenedlaethol: Sylfaen CA4Project unigol

Dadansoddi data meintiol

Os wyt ti wedi casglu data meintiol, bydd gen ti wybodaeth yn ymwneud â rhifau, a gelli di ddefnyddio technegau mathemategol i’w harddangos a’u dadansoddi.

Mae ystadegau yn helpu i droi data meintiol yn wybodaeth ddefnyddiol. Mae’n bosibl gwneud hyn drwy ddefnyddio:

  • dadansoddiad amlder
  • dadansoddiad canran
  • dadansoddiad canol ac amrediad

Dadansoddiad amlder

Mae dadansoddiad amlder yn ymdrin â . Mae hyn yn digwydd pan mae’n bosibl grwpio data yn wahanol gategorïau. Er enghraifft, mae’n bosibl bydd grŵp o bobl yn cynnwys dau gategori – dynion a merched. Nifer y merched sydd yn y categori merched yw’r amlder.

Mae’n bosibl defnyddio tablau amlder i gyflwyno canfyddiadau, neu gall ymchwilydd eu troi’n graffiau neu siartiau bar i gael darlun mwy gweledol.

Byddai’n bosibl i ti ddefnyddio tabl neu siart bar i gyfleu’r atebion sy’n cael eu rhoi gan ddosbarth o blant 14 oed am eu swydd ddelfrydol.

Fformat tabl

Swydd ddelfrydolAmlder
Athro/athrawes5
Peilot2
Model2
Cogydd3
Meddyg6
Nyrs2
Cynllunydd ffasiwn1
Swydd ddelfrydolAthro/athrawes
Amlder5
Swydd ddelfrydolPeilot
Amlder2
Swydd ddelfrydolModel
Amlder2
Swydd ddelfrydolCogydd
Amlder3
Swydd ddelfrydolMeddyg
Amlder6
Swydd ddelfrydolNyrs
Amlder2
Swydd ddelfrydolCynllunydd ffasiwn
Amlder1

Fformat siart bar

Siart bar â gwerthoedd ar gyfer - Athro/athrawes: 5. Peilot: 2. Model: 2. Cogydd: 3. Meddyg: 6. Nyrs: 3. Cynllunydd ffasiwn: 1.

Dadansoddiad canran

Mae’n bosibl trosi data sydd mewn tablau amlder yn ganrannau er mwyn gwneud y data’n gliriach. Dyma'r fformiwla sydd angen ei defnyddio.

\({\percent}~{=}~\frac{Amlder}{Cyfanswm}~{\times}~{100}\)

Mae’r tabl hwn yn dangos yn glir mai’r categori mwyaf poblogaidd oedd bod yn feddyg. Ond mae hefyd yn rhoi gwybodaeth am amlder cymharol pob categori. Mae amlder cymharol yn golygu bod modd cymharu un amlder ag un arall, ee mae nyrs yn ddewis dwywaith yn fwy poblogaidd na chynllunydd ffasiwn.

Swydd ddelfrydolAmlderCanran
Athro/athrawes523.8%
Peilot29.5%
Model29.5%
Cogydd314.3%
Meddyg628.5%
Nyrs29.5%
Cynllunydd ffasiwn14.9%
CYFANSWM21100%
Swydd ddelfrydolAthro/athrawes
Amlder5
Canran23.8%
Swydd ddelfrydolPeilot
Amlder2
Canran9.5%
Swydd ddelfrydolModel
Amlder2
Canran9.5%
Swydd ddelfrydolCogydd
Amlder3
Canran14.3%
Swydd ddelfrydolMeddyg
Amlder6
Canran28.5%
Swydd ddelfrydolNyrs
Amlder2
Canran9.5%
Swydd ddelfrydolCynllunydd ffasiwn
Amlder1
Canran4.9%
Swydd ddelfrydolCYFANSWM
Amlder21
Canran100%

Dadansoddiad canol ac amrediad

Mae’r canol yn disgrifio gwerth nodweddiadol ac mae’r amrediad yn disgrifio pellter y data o’r canol.

Yr ystadegau mwyaf cyffredin i ddisgrifio canol yw:

  • cymedr
  • canolrif
  • modd

Mae’r cymedr yn cael ei gyfrifo drwy adio’r gwerthoedd i gyd (21) a rhannu â nifer y gwerthoedd (5, 2, 2, 3, 6, 2, 1 = 7 gwerth). Y cymedr felly yw 21 ÷ 7 = 3.

Y canolrif yw’r gwerth yn y canol pan mae’r gwerthoedd i gyd yn cael eu gosod mewn trefn gronolegol. Mae hyn yn gwneud hanner y set ddata yn fwy na’r canolrif, a hanner y set ddata yn llai, ee 1,2,2,2,3,5,6. Dyma’r pwynt hanner ffordd - 1,2,2, 2, 3,5,6

Y modd yw’r gwerth data mwyaf poblogaidd. Yn yr enghraifft, y gwerth mwyaf poblogaidd yw 2.

Amrediad yw ystod y data. Dyma’r gwahaniaeth rhwng y gwerth lleiaf a’r gwerth mwyaf. Yn yr enghraifft, yr ystod yw 5.

Os yw’r amrediad yn fawr, mae’r canolrif a’r modd yn llai tebygol o fod yn gynrychiolwyr da o’r gwerthoedd gwreiddiol. Os yw’r amrediad yn fach, bydd y canolrif a’r modd yn fwy tebygol o fod yn gynrychiolwyr da o’r gwerthoedd yn y set ddata wreiddiol.