Cynllunio a threfnuGwybodaeth feintiol

Mae’r broses ymchwil yn bwysig. Mae’n ymwneud â ffurfio cwestiynau ymchwil addas, casglu data cynradd ac eilaidd priodol a dadansoddi gwybodaeth ar gyfer adroddiad ysgrifenedig.

Part ofCenedlaethol: Sylfaen CA4Project unigol

Gwybodaeth feintiol

Mae ymchwil meintiol yn canolbwyntio ar ddadansoddi:

  • data ystadegol
  • data mathemategol
  • data rhifiadol

Mae’n ymwneud â meintiau, neu niferoedd, sy'n cael eu cynhyrchu drwy gymryd mesuriadau. Mewn arolygon, mae'r data yn cael eu cynhyrchu drwy ofyn cwestiynau dewis lluosog neu .

Bydd yr ymchwilydd yn ymdrin â’r data hyn drwy ddefnyddio dulliau mathemategol er mwyn dod i gasgliadau.

Bydd ymchwil meintiol:

  • yn seiliedig ar sampl mwy o
  • yn mesur data ac yn cyffredinoli canlyniadau
  • yn mesur pa mor gyffredin yw barn neu safbwyntiau pobl
  • yn defnyddio dulliau megis arsylwi, holiaduron a chyfweliadau strwythuredig

Arsylwadau

Mae’n bosibl bydd y dull hwn yn cynnwys:

  • cyfri sawl gwaith mae penodol yn digwydd, er enghraifft pa mor aml mae gair penodol yn cael ei grybwyll mewn cyfweliad
  • data arsylwi er mwyn newid y data i rifau

Enghraifft

Os yw ymchwilydd eisiau gwybod beth yw hoff ddiddordebau plant, efallai bydd yn dewis arsylwi plant yn chwarae yn y parc. Bob tro bydd plentyn yn defnyddio siglen, bydd yr ymchwilydd yn gallu codio hyn fel S am siglen. Bob tro bydd un o'r plant yn chwarae gyda phêl, bydd yn codio hyn fel P ar gyfer y gair pêl. Gallai chwarae â doliau gael ei godio fel D i gynrychioli'r gair dol.

Ar ddiwedd yr arsylwad, bydd yr ymchwilydd yn cyfri nifer y llythrennau. Os yw’r llythyren P yn ymddangos yn amlach na’r lleill, gall yr ymchwilydd ddod i’r casgliad bod yn well gan blant ifanc chwarae gemau pêl. Mae ymchwilwyr wedi dod i’r casgliad hwn drwy ddefnyddio’r broses o droi arsylwad yn god, ac yna’n rhif.

Golygfa o barc yn cael ei ddefnyddio gan blant sy'n chwarae gyda doliau, ar siglen a gyda phêl. Mae pad ysgrifennu yn cadw sgôr ar gyfer y gweithgareddau. Dol: 16. Siglen: 28. Pêl: 7.

Holiaduron

Mae’n bosibl cynnal holiaduron ar-lein, dros y ffôn neu wyneb yn wyneb. Mewn holiaduron meintiol mae’r un cwestiynau caeedig yn cael eu gofyn i nifer fawr o bobl. Mae cwestiynau caeedig hefyd yn cael eu galw’n fformatau dewis lluosog, gan fod yn rhaid i ymatebwyr ddewis ymateb o restr o ymatebion, ee:

Cwestiwn 1: Sawl awr yr wythnos fyddwch chi’n ei threulio yn gwneud gwaith cartref?

Ateb 1 (dewisiadau):

  • Dim
  • 1-3
  • 4-6
  • 7-10
  • 11-14
  • 15 neu fwy

Neu

Cwestiwn 2: Ar raddfa o 1-10, faint o broblem yn eich barn chi yw sbwriel ar y strydoedd?

Ateb 2 (dewisiadau): 1, 2, 3, 4, 5, 6, 7, 8, 9, 10

Wrth ysgrifennu cwestiynau dewis lluosog, mae’n bwysig nad yw’r opsiynau’n gorgyffwrdd, ee mewn categorïau oedran, paid â defnyddio’r un oedran mewn mwy nag un categori. Felly, mae opsiynau fel 11-14 ac 15-18 yn gweithio’n dda, ond ni fyddai 11-14 ac 14-18 yn gweithio, oherwydd gallai ymatebwyr 14 oed roi tic yn y naill gategori neu’r llall, a byddai hyn yn rhoi canlyniad annibynadwy.

Weithiau mae gan gwestiynau caeedig flwch ymateb ‘arall’ neu ‘ddim yn gwybod’. Mae hyn oherwydd ei bod yn bosibl na fydd gan yr ymatebydd ateb, felly bydd yn dewis y blwch ‘ddim yn gwybod’. Os nad yw ei ateb yn un o’r opsiynau a roddwyd, bydd yn dewis ‘arall’.

Question

Mae Dylan eisiau gwybod faint o ddarnau o ffrwythau neu lysiau mae ei gyd-ddisgyblion yn eu bwyta bob diwrnod. Ei opsiynau ar gyfer atebion yw:

  • Dim
  • 1-3
  • 4-5
  • 5-7
  • 8+

Pa gyngor fyddet ti’n ei roi i Dylan er mwyn gwella'r opsiynau mae e'n eu cynnig fel atebion?