Ymchwil eilaidd
Ymchwil sydd wedi cael ei gasglu yn barod gan ymchwilwyr eraill yw ymchwil eilaidd. Mae ffynonellau data eilaidd yn cynnwys:
- dogfennau
- llythyrau
- dyddiaduron
- ystadegau swyddogol, megis adroddiadau’r llywodraeth neu sefydliadau sy’n casglu ac yn cyhoeddi data
- cyfnodolion
- llyfrau
- safleoedd rhyngrwyd
- data a gwybodaeth hanesyddol
Prif fantais gwybodaeth eilaidd yw ei bod wedi ei chasglu’n barod gan rywun arall, felly yn aml iawn mae ar gael am ddim neu am gost isel. Er hyn, nid yw bob amser yn cael ei chyflwyno yn y ffurf byddai’r ymchwilydd ei heisiau. Mae hyn oherwydd gallai fod yr ymchwil wedi cael ei gasglu yn wreiddiol at ddiben arall. Mae hyn yn golygu bod angen addasu ymchwil eilaidd fel arfer cyn ei ddefnyddio mewn prosiectau ymchwil penodol.
Rhaid i ymchwilwyr bob amser werthuso hygrededd ffynonellau eilaidd. Mae’n bosibl gwneud hyn drwy gymhwyso meini prawf hygrededd ac asesu a yw’r cynnwys yn ddibynadwy, yn gyfredol, yn berthnasol neu’n ddefnyddiol.
Er 1801, mae’r llywodraeth wedi casglu a chynhyrchu llawer iawn o wybodaeth ystadegol am economi, cymdeithas a phoblogaeth y Deyrnas Unedig. Mae’r data sydd wedi eu casglu yn cynnwys gwybodaeth am:
- gyfraddau marwolaethau
- cyfraddau genedigaethau
- cyfraddau ffrwythlondeb
- cyfraddau ysgaru
- cyfraddau cyflogaeth
- cyfraddau troseddu
- cyfraddau hunanladdiad
- gwybodaeth economaidd
Mae rhai ymchwilwyr yn dewis defnyddio cyfuniad o ffynonellau cynradd ac eilaidd. Yr enw am hyn yw plwraliaeth fethodolegolEnw arall ar hyn yw triongli. Techneg sy’n defnyddio o leiaf ddwy ffynhonnell er mwyn gwirio hygrededd a dilysrwydd gwybodaeth. neu triongli Enw arall am hyn yw plwraliaeth fethodolegol. Techneg sy’n defnyddio o leiaf ddwy ffynhonnell i wirio hygrededd a dilysrwydd gwybodaeth..
Mae hyn yn golygu bod ymchwilwyr yn gallu cymharu gwahanol ffynonellau data a dulliau er mwyn croeswirio gwybodaeth. Mae hyn yn helpu i gadarnhau canfyddiadau, a bydd hynny’n gwneud y casgliadau yn fwy cadarn a dibynadwy.
Enghraifft
Petai ymchwilwyr yn ymchwilio i lefelau bodlonrwydd cwsmeriaid â’r gwasanaeth sy’n cael ei gynnig gan gwmni bysiau, mae'n bosibl byddant yn dod o hyd i dystiolaeth eilaidd sy’n awgrymu bod y mwyafrif o’r teithwyr yn fodlon â’r gwasanaeth. Yna byddent yn gallu gwneud ymchwil cynradd er mwyn gwirio a yw’r dystiolaeth eilaidd yn gadarn.
Os gwnaeth yr ymchwil cynradd ganfod bod saith o bob deg ymatebydd yn fodlon â gwasanaeth y cwmni bysiau, byddai hyn yn cadarnhau bod yr ymchwil eilaidd yn ddibynadwy.