Osmosis mewn tatws
Yn aml, byddwn yn defnyddio silindrau neu ddisgiau o datws ffres i ymchwilio i osmosisSymudiad moleciwlau dŵr ar draws pilen ledathraidd o ardal o grynodiad hydoddion isel i ardal o grynodiad hydoddion uchel. mewn celloedd byw. I wneud yr arbrawf hwn, mae angen:
- torri darnau cyfartal o datws
- eu sychu â phapur cegin a’u pwyso
- rhoi’r darnau mewn crynodiadau gwahanol o hydoddiant swcros am rai oriau
- eu tynnu allan, eu sychu â phapur cegin a’u pwyso unwaith eto
Mae modd cyfrifo canran y newid màsSwm y mater sydd mewn gwrthrych. Mae màs yn cael ei fesur mewn cilogramau (kg). ar gyfer pob darn o daten:
\(\text{canran y newid màs} = \frac{\text{màs terfynol - màs cychwynnol}}{\text{màs cychwynnol}} \times 100\)
Enghraifft un
Màs darn o daten yw 2.5 g i ddechrau a 3.0 g ar y diwedd.
canran y newid màs = (3.0 – 2.5) ÷ 2.5 × 100
= 0.5 ÷ 2.5 × 100
= +20%
Mae’r arwydd + yn dangos bod y màs wedi cynyddu. Bydd wedi ennill mwy o ddŵr trwy osmosis.
Enghraifft dau
Màs darn o daten yw 2.5 g i ddechrau a 2.0 g ar y diwedd.
canran y newid màs = (2.0 – 2.5) ÷ 2.5 × 100
= –0.5 ÷ 2.5 × 100
= –20%
Mae’r arwydd – yn dangos ei fod wedi colli màs. Bydd wedi colli dŵr trwy osmosis.
Question
Mae Rachel yn cynnal arbrawf i ymchwilio i osmosis mewn tatws. Mae hi’n rhoi pum silindr 3 cm o daten mewn pum tiwb profi sy’n cynnwys yr un crynodiad halen.
Dyma ddarn o’r tabl canlyniadau. Cyfrifa’r cymedr rhifyddol mwyaf manwl gywir o’r canlyniadau sydd wedi’u rhoi.
Newid canrannol i fàs y daten.
| Prawf 1 | Prawf 2 | Prawf 3 | Prawf 4 | Prawf 5 |
| 16 | 16 | 15 | 34 | 19 |
| Prawf 1 | 16 |
|---|---|
| Prawf 2 | 16 |
| Prawf 3 | 15 |
| Prawf 4 | 34 |
| Prawf 5 | 19 |
Dyma sut i gyfrifo'r cymedr rhifyddol mwyaf manwl gywir.
(16 + 16 + 15 + 19) ÷ 4 = 16.5
Mae manwl gywir yn golygu agos at y gwir werth. Mae’r newid màs 34 y cant ym Mhrawf 4 yn allanolyn Mesuriad sy’n wahanol iawn i’r mesuriadau eraill sydd wedi’u cymryd dan yr un amgylchiadau mewn arbrawf. amlwg. Ni ddylai hwn gael ei gynnwys yn y cymedr i roi’r canlyniad mwyaf manwl gywir.
Enghraifft tri
Gallwn ni blotio graff o newid màs (echelin fertigol) yn erbyn crynodiad swcros (echelin lorweddol).
Lle mae’r llinell yn croesi’r echelin lorweddol ar 0% newid màs, mae crynodiad y swcros yn hafal i’r crynodiad yng nghynnwys celloedd y daten. Felly mae crynodiad y dŵr yn y toddiant allanol yn hafal i grynodiad y dŵr yn y celloedd. Felly does dim gwirlifiad dŵr drwy gyfrwng osmosis.
Question
Disgrifia ac eglura y berthynas sydd i’w gweld yn y graff.
Ar grynodiad swcros isel, mae’r newid màs canrannol yn cynyddu oherwydd mae dŵr wedi symud i mewn i’r celloedd tatws drwy gyfrwng osmosis o fan o grynodiad dŵr uchel yn yr hydoddiant i grynodiad dŵr is yn y celloedd tatws, gan achosi’r cynnydd màs.
Wrth i grynodiad yr hydoddiant swcros gynyddu, mae’r newid màs canrannol yn mynd yn negatif oherwydd mae dŵr yn gadael y celloedd drwy gyfrwng osmosis, o fan â chrynodiad dŵr uwch yn y celloedd tatws i grynodiad dŵr is yn yr hydoddiant, gan achosi’r golled màs.