Microsgopeg
Defnyddiwn ficroscop i edrych ar wrthrychau sy’n rhy fach i’w gweld gyda’n llygad noeth.
Microsgop golau yw’r microsgop yn y llun. Mae’n defnyddio golau wedi’i ffocysu a’i anfon drwy’r gwrthrych, a dwy lens i chwyddo delwedd o’r gwrthrych.
Lensys
Os ydyn ni’n edrych ar wrthrych dan y lens gwrthrychiadur ×4, bydd golau wedi mynd drwy’r gwrthrych, y lens gwrthrychiadur ×4, a’r lens sylladur ×10 cyn cyrraedd ein llygad. Mae hyn yn golygu bod y ddelwedd 4 × 10 = 40 gwaith yn fwy.
Llwyfan
Dyma lle rydyn ni’n rhoi sleid y microsgop i edrych arni. Mae twll yn y canol i ffocysu golau i fyny drwy’r gwrthrych.
Gan ddefnyddio microsgop golau, gallwn ni chwyddo â lens gwrthrychiadur ×40 sy’n chwyddo’r ddelwedd 400 gwaith. Bydd defnyddio lens gwrthrychiadur â chwyddhad uwch na hyn yn gwneud y ddelwedd yn fwy, ond fydd clirdeb y ddelwedd ddim yn gwella, felly bydd maint y ddelwedd yn fwy ond bydd llai o fanylder. I weld pethau ar chwyddhad uwch ac â mwy o fanylder, gallwn ni ddefnyddio microsgopeg electronauDefnyddio electronau i ffurfio delweddau o ddefnydd organig marw..
Question
Wrth ddefnyddio lens sylladur ×10 a lens gwrthrychiadur ×10, faint mae’r ddelwedd yn cael ei chwyddo?
Sylladur ×10 lens gwrthrychiadur ×10 = cyfanswm chwyddhad ×100
Gwneud sleid wydr
Y celloedd hawsaf i edrych drwyddynt yw celloedd boch. I edrych ar y celloedd hyn o dan y microsgop, rhaid paratoi sleid o’r celloedd i’w rhoi ar lwyfan y microsgop. Dyma’r camau:
- Rhwbia ffon gwlân cotwm lân yn ysgafn ar du mewn dy foch.
- Rhwbia’r sampl ar draws sleid wydr lân.
- Mae celloedd yn dryloyw. Rho rai diferion o lifyn o’r enw methylen glas ar y rhwbiad er mwyn i’r celloedd fod yn weladwy dan y microsgop.
- Defnyddia nodwydd wedi’i mowntio i ostwng arwydryn gwydr yn ysgafn ar y sampl ar y sleid. Bydd yn ofalus i beidio ffurfio swigod aer o dan yr arwydryn.
Cynnal asesiad risg
Gallai asesiad risg ar gyfer yr enghraifft uchod edrych fel hyn.
| Perygl | Risg | Mesur rheoli |
| Enwa’r cemegyn neu’r cyfarpar yn yr arbrawf a nodi’r rheswm pam ei fod yn berygl. Mae methylen glas yn llidus. | Noda ym mha gam yn y dull y mae risg y gallai’r perygl hwnnw achosi niwed. Os daw methylen glas i gysylltiad â’r croen neu’r llygaid yn ystod y weithdrefn, gallai achosi llid. | Beth alli di ei wneud i leihau’r risg? Gwisgo menig labordy. Gwisgo sbectol ddiogelwch. |
| Perygl | Enwa’r cemegyn neu’r cyfarpar yn yr arbrawf a nodi’r rheswm pam ei fod yn berygl. Mae methylen glas yn llidus. |
|---|---|
| Risg | Noda ym mha gam yn y dull y mae risg y gallai’r perygl hwnnw achosi niwed. Os daw methylen glas i gysylltiad â’r croen neu’r llygaid yn ystod y weithdrefn, gallai achosi llid. |
| Mesur rheoli | Beth alli di ei wneud i leihau’r risg? Gwisgo menig labordy. Gwisgo sbectol ddiogelwch. |
Question
Mae’r arwydrau gwydr tenau’n berygl arall sy’n gysylltiedig â’r arbrawf. Cwblha’r asesiad risg llawn ar gyfer y rhain.
| Perygl | Risg | Mesur rheoli |
| Enwa’r cemegyn neu’r cyfarpar yn yr arbrawf a nodi’r rheswm pam ei fod yn berygl. | Noda ym mha gam yn y dull y mae risg y gallai’r perygl hwnnw achosi niwed. | Beth alli di ei wneud i leihau’r risg? |
| Perygl | Enwa’r cemegyn neu’r cyfarpar yn yr arbrawf a nodi’r rheswm pam ei fod yn berygl. |
|---|---|
| Risg | Noda ym mha gam yn y dull y mae risg y gallai’r perygl hwnnw achosi niwed. |
| Mesur rheoli | Beth alli di ei wneud i leihau’r risg? |
| Perygl | Risg | Mesur rheoli |
| Enwa’r cemegyn neu’r cyfarpar yn yr arbrawf a nodi’r rheswm pam ei fod yn berygl. Mae gwydr yn torri’n hawdd ac mae’n finiog. | Noda ym mha gam yn y dull y mae risg y gallai’r perygl hwnnw achosi niwed. Mae’n gallu torri’r croen wrth geisio ei ostwng ar y sleid. | Beth alli di ei wneud i leihau’r risg? Ei drin yn ofalus, a rhoi gwybod i rywun os bydd gwydr yn torri. |
| Perygl | Enwa’r cemegyn neu’r cyfarpar yn yr arbrawf a nodi’r rheswm pam ei fod yn berygl. Mae gwydr yn torri’n hawdd ac mae’n finiog. |
|---|---|
| Risg | Noda ym mha gam yn y dull y mae risg y gallai’r perygl hwnnw achosi niwed. Mae’n gallu torri’r croen wrth geisio ei ostwng ar y sleid. |
| Mesur rheoli | Beth alli di ei wneud i leihau’r risg? Ei drin yn ofalus, a rhoi gwybod i rywun os bydd gwydr yn torri. |
Chwyddhad
Mae Katie yn lluniadu delwedd o rai celloedd nionyn mae hi wedi eu harsylwi o dan ficrosgop. Mae ei hathro yn dweud wrthi bod hyd y celloedd yn 0.4 mm. Mae’r hyd ar ei lluniad hi yn 40 mm.
Gan ddefnyddio’r hafaliad hwn, mae hi’n cyfrifo bod chwyddhad ei lluniad yn ×100.
\(\text{chwyddhad}~=~\frac{\text{maint y ddelwedd}}{\text{maint gwirioneddol}}\)
Question
Mae Tomos yn lluniadu llun mwy o’r un celloedd. Mae’r hyd ar ei ddelwedd yn 60 mm. Beth yw chwyddhad y ddelwedd hon?
Chwyddhad = 60 ÷ 0.4 = ×150