Arbrofion osmosis
Mae tiwbin Visking yn bilen athraidd detholusMae hefyd yn cael ei alw yn rannol athraidd. Mae pilen athraidd detholus yn gadael i ddŵr a moleciwlau bach eraill basio drwyddi, ond ddim moleciwlau mwy megis startsh. artiffisial:
- mae moleciwlau llai megis dŵr a glwcosSiwgr syml sy'n cael ei wneud gan y corff o fwyd. Mae'n cael ei ddefnyddio gan gelloedd i wneud egni yn ystod resbiradaeth. yn pasio trwy ei dyllau microsgopaidd
- dydy moleciwlau mwy megis startshMath o garbohydrad. Gall planhigion newid y glwcos sy'n cael ei gynhyrchu yn ystod ffotosynthesis yn startsh i'w storio, a'i newid yn ôl yn glwcos pan fo'i angen ar gyfer resbiradaeth. a swcrosDeusacarid wedi ei wneud o glwcos a ffrwctos. Mae’n cael ei ddefnyddio fel siwgr bwrdd. ddim yn gallu pasio trwyddo
Mae’r lluniau’n dangos arbrawf nodweddiadol yn defnyddio tiwbin Visking a hydoddiant swcros.
Image caption, Arbrawf tiwbin Visking
Y tiwbin Visking yw’r bilen athraidd ddetholus. Mae dŵr yn symud drwy gyfrwng osmosis o’r crynodiad dŵr uchel (hydoddiant gwanedig) yn y bicer i’r crynodiad dŵr isel (hydoddiant crynodedig) yn y tiwbin Visking ar draws y bilen. Mae hyn yn cynyddu cyfaint yr hylif yn y tiwbin Visking, ac yn gorfodi hylif i fyny’r tiwb capilari.
Image caption, Arbrawf tiwbin Visking
Y tiwbin Visking yw’r bilen athraidd ddetholus. Mae dŵr yn symud drwy gyfrwng osmosis o’r hydoddiant gwanedig yn y tiwbin Visking i’r hydoddiant crynodedig yn y bicer ar draws y bilen. Mae hyn yn lleihau cyfaint yr hylif yn y tiwbin Visking, ac yn gostwng lefel yr hylif yn y tiwb capilari.
Image caption, Arbrawf tiwbin Visking
Mae’r un faint o ddŵr yn symud o du mewn y tiwbin i’r tu allan ar draws y bilen athraidd ddetholus. Does dim symudiad dŵr net i’r naill gyfeiriad na’r llall gan fod y crynodiad yn hafal ar y ddwy ochr, felly mae lefel y dŵr yn y tiwb capilari yn aros yr un fath.
1 of 3