Osmosis
Osmosis yw trylediadSymudiad gronynnau (moleciwlau neu ïonau) o ardal o grynodiad uwch i ardal o grynodiad is.moleciwlau dŵr, o ardal o grynodiad uwch i ardal o grynodiad is, trwy bilen athraidd ddetholus.
Mae hydoddiant gwanedig yn cynnwys crynodiad uchel o foleciwlau dŵr, ac mae hydoddiant crynodedig yn cynnwys crynodiad isel o foleciwlau dŵr.
Mae’r lluniau canlynol yn dangos enghraifft o osmosis.
Image caption, Arbrawf osmosis
Mae’r bicer yn cynnwys moleciwlau dŵr a siwgr
Image caption, Arbrawf osmosis
Mae’r moleciwlau dŵr yn pasio drwodd o hydoddiant un i hydoddiant dau
1 of 2
Yn y pen draw, bydd y crynodiad ar y ddwy ochr i’r bilen yr un fath. Ar yr adeg hon, bydd symudiad moleciwlau dŵr i’r ddau gyfeiriad yn hafal. Rydyn ni’n dweud bod yr hydoddiant mewn ecwilibriwm – felly does dim symudiad net i un cyfeiriad.
Osmosis mewn celloedd
Mae canlyniadau osmosisSymudiad moleciwlau dŵr ar draws pilen ledathraidd o ardal o grynodiad hydoddion isel i ardal o grynodiad hydoddion uchel. mewn celloedd anifeiliaid a chelloedd planhigion yn wahanol.
Celloedd planhigion
Mae cellfur cellwlosCarbohydrad. Mae’n ffurfio’r cellfur mewn celloedd planhigion. cryf gan gelloedd planhigion ar y tu allan i’r gellbilen. Mae hyn yn cryfhau’r gell ac yn atal y gell rhag byrstio wrth iddi gasglu dŵr trwy osmosis.
Cell planhigyn mewn hydoddiant gwanedig (crynodiad dŵr yn uwch na chynnwys y gell)
Mae dŵr yn mynd i mewn i’r gell trwy osmosis. Mae’r cytoplasm yn gwthio yn erbyn y cellfur ac mae’r gell yn mynd yn chwydd-dynn.
Cell planhigyn mewn hydoddiant crynodedig (crynodiad dŵr yn is na chynnwys y gell)
Mae dŵr yn gadael y gell trwy osmosis. Mae’r cytoplasm yn crebachu gan dynnu'r cellbilen i ffwrdd oddi wrth y cellfur. Enw’r broses yma yw plasmolysis ac mae’r gell yn mynd yn llipa ac mae’r planhigyn yn gwywo.
Mae celloedd planhigion chwydd-dynnDywedwn fod cell planhigyn yn chwydd-dynn pan fo wedi chwyddo â dŵr. yn rhan bwysig o gynnal y planhigyn.
Celloedd anifeiliaid
Does dim cellfur gan anifeiliaid. Maen nhw’n newid maint a siâp pan fyddan nhw’n cael eu rhoi mewn hydoddiannau sydd â chrynodiadau sy’n wahanol i gynnwys y gell.
Er enghraifft, mae celloedd coch y gwaed:
- yn cymryd dŵr i mewn, yn chwyddo ac yn rhwygo mewn hydoddiant mwy gwanedig (sef haemolysis)
- yn colli dŵr ac yn crebachu mewn hydoddiant mwy crynodedig (maen nhw’n mynd yn rhychiog neu wedi crychu)
Dydy’r pethau hyn ddim yn digwydd y tu mewn i’r corff. Mae osmoreolaeth drwy’r arennau yn sicrhau bod crynodiad y gwaed yn aros bron yr un fath â chrynodiadau cynnwys y gell.