Resbiradaeth aerobig
Mae pob peth byw’n cyflawni saith proses bywyd:
- symudiad
- resbiradaeth
- sensitifrwydd
- twf
- atgenhedliad
- ysgarthiad
- maethiad
Proses resbiradaeth sy’n darparu’r egni sydd ei angen ar gyfer y prosesau hyn. Mae hefyd yn darparu egni ar gyfer:
- cyfangiad cyhyrau, sydd ei angen ar gyfer symudiad
- ysgogiadau nerfol, sydd eu hangen ar gyfer sensitifrwydd ac ymatebion
- cellraniad a synthesis protein, sydd eu hangen ar gyfer twf
Mae proses resbiradaeth hefyd yn rhyddhau egni ar ffurf gwres. Mae’r gwres yn cael ei ddefnyddio i gynnal tymheredd cymharol uchel yng nghyrff mamolion ac adar.

Mae resbiradaeth yn ymwneud ag adweithiau cemegol sy’n dadelfennu moleciwlau maetholion mewn celloedd byw i ryddhau egni.
Mae resbiradaethresbiradaeth aerobigResbiradaeth sydd angen ocsigen. angen ocsigen. Dyma’r broses o ryddhau llawer o egni mewn celloedd drwy dorri i lawr sylweddau bwyd ym mhresenoldeb ocsigen.
Gallwn ni ei grynhoi â’r hafaliad canlynol.
\(\text{glwcos + ocsygen} \rightarrow \text{carbon deuocsid + dŵr + egni ar ffurf ATP}\)
Adenosin triffosffad (ATP) – Haen uwch
Pe bai’r egni sydd wedi’i storio mewn glwcosSiwgr syml sy'n cael ei wneud gan y corff o fwyd. Mae'n cael ei ddefnyddio gan gelloedd i wneud egni yn ystod resbiradaeth. i gyd yn cael ei ryddhau ar unwaith, byddai’n anodd iawn ei reoli. Felly, mae’r egni sydd wedi’i storio yn y moleciwl glwcos yn cael ei ryddhau’n raddol yn ystod resbiradaeth a’i ddefnyddio i ffurfio ATPAdenosin triffosffad yn Gymraeg, adenosine triphosphate yn Saseneg. Cemegyn egni uchel sy'n cyfnewid egni cemegol mewn celloedd.. ATP yw cyfnewidiwr egni celloedd. Mae’n storio’r egni dros dro mewn bond egni uchel, a phan mae’r bond hwn yn cael ei dorri, mae symiau bach o egni’n cael eu rhyddhau a’u defnyddio gan y corff.
Mitocondria
Mae resbiradaeth aerobig yn digwydd drwy’r amser mewn anifeiliaid a phlanhigion.
Cofia fod resbiradaeth yn wahanol i anadlu (awyriad). Mae’r rhan fwyaf o adweithiau mewn resbiradaeth aerobig yn digwydd y tu mewn i mitocondrionAdeiledd yn cytoplasm pob cell lle mae resbiradaeth yn digwydd (mitocondria ydy’r lluosog). mewn celloedd.
Mae’r bilen fewnol wedi’i phlygu tuag i mewn, gan ddarparu arwynebedd arwyneb mawr i ensymau lynu ato er mwyn catalyddu proses resbiradaeth.