Y system dreulio mewn bodau dynolMaetholion

Dylid bwyta deiet cytbwys sy’n addas i’n hoedran a’n ffordd o fyw. Gall bwyta gormod arwain at ordewdra. Rhaid treulio maetholion cyn y gallwn eu hamsugno a’u defnyddio.

Part ofBiolegCelloedd, systemau organau ac ecosystemau

Maetholion

Sylwedd sydd ei angen ar gyfer twf, adferiad a ydy . Dyma’r tri phrif faetholyn:

  • carbohydradau
  • proteinau
  • lipidau (brasterau ac olewau)

Pan mae’r maetholion hyn yn mynd i mewn i’r corff, maent yn foleciwlau mawr ac anhydawdd. Er mwyn i’r corff allu amsugno’r maetholion hyn a’u cludo nhw yn llif y gwaed, i’r holl gelloedd lle mae eu hangen, mae’n rhaid treulio’r moleciwlau hyn.

Moleciwlau biolegol

Carbohydradau

Mae startsh yn garbohydrad cadwyn hir. Mae’n anhydawdd. Yn ystod treuliad, mae’r ensym yn ei dorri’n foleciwlau glwcos unigol sy’n ddigon bach a hydawdd i gael eu cludo yn y gwaed i’r celloedd ar gyfer resbiradaeth, neu i gael eu storio ar ffurf glycogen yn yr afu/iau.

Diagram yn dangos moleciwlau startsh yn cael eu dadelfennu gan yr ensym carbohydras o gadwyn hir o foleciwlau wedi'u rhwymo â'i gilydd i ffurfio moleciwlau glwcos unigol.

Proteinau

Cadwynau hir o asidau amino yw proteinau. Yn ystod treuliad, mae’r ensym yn eu torri nhw’n asidau amino unigol sy’n fach ac yn hydawdd; mae celloedd yn gallu defnyddio’r rhain i adeiladu proteinau newydd.

Diagram yn dangos proteinau'n cael eu dadelfennu gan yr ensym proteas o gadwyn hir o asidau amino i ffurfio asidau amino unigol.

Lipidau

Mae lipidau’n foleciwlau mawr. Yn ystod treuliad, mae’r ensym yn eu torri nhw’n asidau brasterog a glyserol. Mae’r corff yn gallu defnyddio’r rhain i ddarparu egni.

Diagram yn dangos lipidau mawr yn cael eu dadelfennu gan yr ensym lipas i ffurfio glyserol a thri asid brasterog.

Profion bwyd

Gallwn ni ddefnyddio gwahanol gemegion neu adweithyddion yn y labordy i ganfod oes math o fwyd yn bresennol ai peidio.

Profion am garbohydradau

Startsh – rydyn ni’n profi am startsh â chemegyn o’r enw . Mae hydoddiant ïodin yn hylif lliw brown. Os yw’n dod i gysylltiad â startsh, mae’n troi’n las/du.

Dau diwb profi. Un yn cynnwys ïodin ac yn lliw oren. Y llall yn cynnwys ïodin a startsh ac yn lliw du.

Glwcos – i brofi am glwcos, mae angen cemegyn o’r enw . Mae ganddo liw glas, ac mae angen ei wresogi’n egnïol gyda’r sampl i ddangos newid lliw. Os oes glwcos yn bresennol, gallai amrywiaeth o liwiau ymddangos sy’n dynodi crynodiad cymharol y glwcos yn y sampl.

Pum tiwb profi yn cynnwys hydoddiannau lliw. 1 yn las, â'r label dim, 2 yn wyrdd, â'r label isel iawn, 3 yn felyn, â'r label isel, 4 yn oren, â'r label canolig a 5 yn goch, â'r label uchel.

Protein – i brofi am brotein, mae angen cemegyn o’r enw . Mae ganddo liw glas, ond mae’n troi’n fioled ym mhresenoldeb protein.

Dau diwb profi. Un yn cynnwys hydoddiant biwret ac yn lliw glas. Y llall yn cynnwys hydoddiant biwret a phrotein ac yn lliw porffor.

Question

Mae hydoddiant biwret yn cynnwys copr sylffad gwanedig iawn a sodiwm hydrocsid, sy’n ei wneud yn llidus. Cwblha’r asesiad risg isod ar gyfer hydoddiant biwret (mae rhan gyntaf yr asesiad risg wedi’i chwblhau ar eich cyfer).

PeryglRisgMesur rheoli
Mae hydoddiant biwret yn llidus.
PeryglMae hydoddiant biwret yn llidus.
Risg
Mesur rheoli

Tabl crynodeb

Tabl o ganlyniadau presenoldeb startsh, proteinau a lipidau. Colofnau wedi'u labelu'n Enw'r ensym sy'n ei dreulio, Moleciwl sy'n cael ei dreulio, Prawf bwyd, a Canlyniad positif.