Y system dreulio mewn bodau dynolDeiet cytbwys

Dylid bwyta deiet cytbwys sy’n addas i’n hoedran a’n ffordd o fyw. Gall bwyta gormod arwain at ordewdra. Rhaid treulio maetholion cyn y gallwn eu hamsugno a’u defnyddio.

Part ofBiolegCelloedd, systemau organau ac ecosystemau

Deiet cytbwys

Dyma’r tri maetholyn y mae angen y mwyaf ohonynt:

  • carbohydradau
  • proteinau
  • lipidau (brasterau ac olewau)

Dyma faetholion eraill y mae angen llai ohonynt:

  • fitaminau
  • mwynau
  • ffibr deietegol
  • dŵr

I gael y maetholion hyn mae bodau dynol, fel hollysyddion, yn bwyta deiet amrywiol.

Carbohydradau, proteinau a lipidau

Dyma ffynonellau a phrif swyddogaethau gwahanol gyfansoddion deiet cytbwys.

Tabl â thair rhes a dwy golofn. Labeli'r rhesi: Carbohydradau, Proteinau a Lipidau. Label colofn 1: Ffynonellau nodweddiadol; mae hon yn rhestru amrywiaeth o fwydydd. Label colofn 2: Swyddogaeth.

Fitaminau

Dim ond ychydig iawn o fitaminau sydd eu hangen i gadw’r corff yn iach. Mae prinder fitaminau yn y deiet yn arwain at symptomau diffyg.

Fitamin C

Mae angen fitamin C (asid asgorbig) i helpu i wella clwyfau a chadw meinwe gyswllt iach (sy’n helpu i gynnal meinweoedd ac organau eraill).

Ffrwythau sitrws megis lemon, oren a grawnffrwyth
Image caption,
Mae orenau yn ffynhonnell dda o fitamin C

Mae ffynonellau da o fitamin C yn cynnwys:

  • ffrwythau sitrws, ee orenau, lemon a leim
  • llysiau deiliog gwyrdd, ee ysgewyll a brocoli

Mae diffyg fitamin C yn achosi’r llwg (sgyrfi). Mae symptomau’r llwg yn cynnwys deintgig yn gwaedu ac yn chwyddo, colli dannedd, blinder a phoenau yn y cymalau.

Ïonau mwynol

Ychydig iawn o ïonau mwynol sydd eu hangen, yr un fath â fitaminau, i gadw’r corff yn iach. Mae prinder ïonau mwynol cywir yn y deiet hefyd yn achosi symptomau diffyg.

Haearn

Llysiau deiliog gwyrdd, gan gynnwys ysgallddeilen, cêl a bresych.
Image caption,
Mae llysiau deiliog gwyrdd yn ffynhonnell dda o haearn

Mae angen haearn i gynhyrchu haemoglobin, sydd i’w gael yng nghelloedd coch y gwaed.

Mae ffynonellau da o haearn yn cynnwys:

  • afu/iau
  • cig coch
  • ffa a chnau
  • ffrwythau sych, ee bricyll sych

Mae diffyg haearn yn achosi anaemia. Mae pobl ag anaemia yn mynd yn flinedig a gwan oherwydd dydy eu gwaed ddim yn cario digon o ocsigen.

Dŵr a ffibr deietegol

Mae dŵr a ffibr deietegol (bwyd garw) hefyd yn gyfansoddion pwysig mewn deiet.

Dŵr

Dŵr yn cael ei dywallt o botel i mewn i wydr.
Figure caption,
Mae yna ddŵr mewn diodydd ac mewn bwyd

Mae tua dwy ran o dair o’r corff dynol yn ddŵr. Mae dŵr yn ein celloedd ac mae yn hylifau’r corff, er enghraifft, y gwaed.

Mae ffynonellau dŵr yn cynnwys:

  • bwyd
  • diodydd
  • prosesau metabolaidd, ee resbiradaeth aerobig

Ffibr deietegol

Bowlen o rawnfwyd granola llugaeron.
Figure caption,
Mae grawnfwydydd grawn cyflawn yn ffynhonnell dda o ffibr deietegol

Ffibr deietegol ydy deunydd mewn bwyd sy’n methu â chael ei dreulio, yn enwedig cellwlos o gellfuriau planhigion.

Mae ffynonellau ffibr yn cynnwys:

  • ffrwythau
  • llysiau
  • grawnfwyd

Mae ffibr deietegol yn bwysig am ei fod yn sicrhau bod digon o swmp yn y bwyd, ac mae’n helpu waliau’r coluddyn i symud bwyd ac ymgarthion ar hyd y coludd. Mae diffyg ffibr digonol yn gallu achosi rhwymedd.