Dylid bwyta deiet cytbwys sy’n addas i’n hoedran a’n ffordd o fyw. Gall bwyta gormod arwain at ordewdra. Rhaid treulio maetholion cyn y gallwn eu hamsugno a’u defnyddio.
Gallwn ni fodelu’r broses sy’n digwydd yn y coluddyn bach gan ddefnyddio darn o gyfarpar o’r enw tiwbin ViskingPilen athraidd ddetholus, artiffisial a ddefnyddir mewn arbrofion osmosis a thrylediad.. Mae tiwbin Visking yn bilen athraidd ddetholus, sy’n golygu bod mandyllau ynddo sy’n gadael i foleciwlau bach fynd drwodd, ond nid moleciwlau mwy.
Gallwn ni gydosod cyfarpar fel hyn i fodelu amsugniad yn y coluddyn bach.
Yn rheolaidd, mae’r hylif y tu mewn a thu allan i’r tiwbin Visking yn cael ei samplu a’i brofi am startsh (gan ddefnyddio ïodin) a glwcos (gan ddefnyddio adweithydd Benedict). Mae’r tabl hwn yn dangos y canlyniadau.
Question
Disgrifia ac eglura gynnwys y tiwbin Visking a’r dŵr ar ôl dwy funud.
Mae’r startsh i gyd yn dal i fod yn y tiwbin ar ôl dwy funud oherwydd mae moleciwlau startsh yn rhy fawr i ffitio drwy tyllau'r tiwbin Visking. Dyma’r rheswm pam, hyd yn oed ar ôl dwy funud, does dim startsh i’w gael yn y dŵr.
Mae glwcos yn ymddangos yn y dŵr oherwydd caiff startsh ei dreulio (torri i lawr) gan yr ensym amylas i glwcos. Mae molecylau glwcos yn ddigon bach i dryledu allan drwy tyllau’r tiwb Visking i’r hylif yn y bicer.
Mae gan y model hwn o amsugno bwyd wedi’i dreulio yn y coluddyn bach ei gyfyngiadau.
Model
Ffurfiad
Tebyg
Gwahanol
Tiwbin Visking
Mur y coluddyn bach
Athraidd ddetholus
Arwynebedd arwyneb llai oherwydd diffyg filysau
Dŵr distyll
Gwaed
Isel mewn hydoddion i ddechrau i ganiatáu graddiant crynodiad uchel
Ddim yn llifo felly dydy’r graddiant crynodiad ddim yn cael ei gynnal
Model
Tiwbin Visking
Ffurfiad
Mur y coluddyn bach
Tebyg
Athraidd ddetholus
Gwahanol
Arwynebedd arwyneb llai oherwydd diffyg filysau
Model
Dŵr distyll
Ffurfiad
Gwaed
Tebyg
Isel mewn hydoddion i ddechrau i ganiatáu graddiant crynodiad uchel
Gwahanol
Ddim yn llifo felly dydy’r graddiant crynodiad ddim yn cael ei gynnal